Mae Non Llewelyn Williams yn ddisgybl blwyddyn deg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ac yn byw ar fferm Hendre Nantcyll, Pantglas.
Ers yn blentyn ifanc iawn roedd yn mwynhau chwarae pêl-droed. Gan nad oedd tîm merched yn Nyffryn Nantlle, penderfynodd ymuno â Thîm Bechgyn Dyffryn Nantlle er mwyn cael ymarfer ei sgiliau.
Bu’n chwarae i sawl tîm arall yn dilyn hynny, ond ers oddeutu bum mlynedd mae’n chwarae i Dîm Merched Gogledd Cymru ac erbyn hyn yn chwarae i’r tim dan 16 – cryn gamp. Mae hynny’n golygu ei bod yn teithio i Wrecsam
deirgwaith yr wythnos yn ogystal â gêm bob dydd Sul – ymroddiad go iawn.
Yn ddiweddar roedd Tîm Pêl-droed Merched Cymru yn chwarae yn erbyn Croatia ar y Cae Ras enwog, buddugoliaeth o 4 gôl i 0. Rhoddwyd gwahoddiad i aelodau’r tîm Merched Gogledd Cymru i fod yn ‘ball girls’
yn ystod y gêm, a derbyniodd Non y cynnig ar ei hunion, a mwynhau’r profiad yn fawr. Efallai y bydd hithau yn rhan o’r tîm hŷn rhyw ddiwrnod.