Cyfeillion Talysarn a Nantlle

Cychwyn y daith

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Wel bu’n flwyddyn a hanner lawn, heriol a phrysur ers sefydlu grŵp cymunedol ‘Cyfeillion Talysarn a Nantlle’ yn Nyffryn Nantlle. Yn dilyn y cyfnod clo sylweddolodd llawer o gyfeillion  pentref Talysarn, fod llawer o drigolion y pentref a arferai gymdeithasu a chefnogi’r ysbryd cymunedol, yn dueddol o gadw draw o ddigwyddiadau am eu bod ofn cymdeithasu. Yna daeth argyfwng y costau byw ac roedd pawb yn bryderus am wario arian prin – (ei effaith yn parhau hyd heddiw.)

Aeth y pentref yn ddistaw, a dyna pryd y penderfynodd criw o gyfeillion y pentref ddod at eu gilydd i sefydlu ‘Cyfeillion Talysarn a Nantlle’, er mwyn ceisio adfer ysbryd yr ardal a chefnogi’r trigolion.

Gyda chefnogaeth y Ganolfan Gymunedol yn Nhalysarn aethpwyd ati i gynnal cyrsiau, megis Cymorth Cyntaf. Bu’n llwyddiant, a chanlyniad hyn rai misoedd wedyn, oedd fod un o’r trigolion yn trosglwyddo’r hyn a ddysgwyd i eraill. Gydag amser roedd pobl yn dychwelyd i ddigwyddiadau’n llai pryderus ac yn magu sgiliau hanfodol ar gyfer argyfwng.

Mis Mawrth eleni dechreuwyd sesiwn ‘Paned a Sgwrs’ i ddathlu Gŵyl Dewi. Cyfle nid yn unig i ddathlu dydd ein nawddsant, ond hefyd i roi teisen flasus, paned boeth a chwmni i lawer un.  Roedd llawer ddaeth ynghyd yn wynebau cyfarwydd, ond rhoddwyd croeso i wynebau newydd hefyd. Bellach mae hyn yn ddigwyddiad misol ac yn mynd o nerth i nerth, a thrigolion yn cael cyfle i rannu straeon difyr a chwerthin, sydd wir yn codi calon rhywun.

Ar ôl misoedd lawer o gyfarfodydd ac ymgynghori, o dan arweiniad ‘Cyfeillion Talysarn a Nantlle’ mae gardd gymunedol ‘Gardd Nant’ wedi’i chreu yn Nhalysarn. Safle agored ydyw, a lle i gael munud i feddwl, dysgu am iechyd, garddio a natur. Lle ar gyfer ein presennol a dyfodol ieuenctid yr ardal.

Mae’r diolch yn fawr i drigolion y gymuned, cynghorau cymuned a busnesau lleol.

I dderbyn mwy o fanylion am y gwaith gwych sydd wedi, ac yn parhau, i gymryd lle, ewch i bori drwy dudalen facebook ‘Cyfeillion Talysarn a Nantlle.’