Crwydro Comin Uwchgwyrfai

Taith gerdded nesaf Yr Orsaf – fore Sadwrn, 9 Tachwedd, 10:30yb

gan Llio Elenid
taith-gerdded-uwchgwyrfai-facebook-1

Bydd taith gerdded nesaf Yr Orsaf yn crwydro comin Uwchgwyrfai ar fore Sadwrn, 9 Tachwedd. Taith fydd yn cymryd ryw 2 awr i 2 awr a hanner bydd hi, gyda’r cyfle i grwydro drwy brydferthwch diffeithwch a drwy dreftadaeth ddiwydiannol Dyffryn Nantlle. Bydd hi’n dir reit anwastad drwy lwybrau cyhoeddus a thiroedd corsiog.

Mae’r tywydd yn gallu bod yn ansefydlog adeg yma o’r flwyddyn felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd – bydd angen dillad cynnes, cot law ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr (pwysig iawn!).

Byddwn yn cyfarfod yn sgwar Y Fron ger yr hysbysfwrdd am am 10:30yb.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com

Dweud eich dweud