Difyr iawn. Edrych mlaen am fwy!
Blodyn y mis, gan Twm Elias, Nebo:
Bwtsiars y gog
Eifion Wyn ddywedodd:
Ni rois gam ar lawr y wig
Heb fod clychau’r nef o tano,
Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.
Sôn oedd o am Fwtsiars y gog, sy’n prysur ddwad i’w anterth wrth i mi siarad, a hithau bron yn ganol Mai. Bwtsiars y gog am mai yn nhymor y gog maent yn blodeuo. Ac os nad ydych yn gyfarwydd â’r enw, mae digon o ddewis: Clychau’r gog yw’r enw safonol, ond fe gewch lu o enwau lleol, megis: bacsiau’r gog, sannau’r gog, bacsiau’r brain, cennin y brain, clychau gleision, clychau’r eos, croeso haf a llawer mwy – dros 20 o enwau Cymraeg i gyd. Hynny’n dangos pa mor adnabyddus a phoblogaidd yw’r blodyn.
Mae ’na stori ddifyr am sut y cafodd y planhigyn ei enw gwyddonol, sef Hyacinthoides non-scripta. Hyacinthoides yn golygu ‘tebyg i Hyacinth’ – sef blodyn prydferth iawn gafodd ei enwi gan y Groegiaid ar ôl bachgen ifanc golygus a laddwyd drwy ddamwain gan Apollo, duw’r haul, wrth chwarae coits un tro.
Be ddigwyddodd oedd bod Apollo a Zephyr (duw gwynt y gorllewin oedd hwnnw), i’ll dau yn hoff iawn o’r bachgen Hyacinth ’ma. Ond am fod Hyacinth yn ffafrio Apollo yn fwy na Zephyr, fe ddaeth chwa o genfigen dros dduw’r gwynt. Y tro nesa y taflodd Apollo y goitsen, fe chwythodd yr hen Zephyr gan beri iddi wyro oddiar ei llwybr a rhoi clec farwol i’r bachgen yn ei ben!
Yn ei alar fe droiodd Apollo’r llanc yn flodyn prydferth. Mae’n debyg mai yr Hyachinth orientalis, sy’n boblogaidd yn ein gerddi neu yn flodyn tŷ erbyn hyn oedd y gwreiddiol. Yn ddifyr iawn, mae marc ar betalau’r orientalis gwyllt sydd, yn alffabet yr iaith Roegaidd, yn debyg iawn i’r llythrennau sy’n sillafu’r gair “Ai-ai!”, sef cri ola’r llanc wrth iddo drengi! Ond, dydy’r marc hwnnw ddim i’w weld ar flodyn Bwtsiars y gôg. Dyna pam ei fod yn Hyacinthoides non-scripta – â’r non-scripta yn golygu ‘heb y gair’. Ystyr yr enw gwyddonol felly yw: ‘tebyg i Hyacinth, ond heb y gair’.
Ond be am yr enw Cymraeg bwtsiars y gog, sef yr enw gewch chi ar y blodyn yn yr hen Sir Gaernarfon? Mae ’na hanes difyr y tu ôl i’r enw hwn hefyd. Bwtsiars, neu blwtsiars ym Môn, yw’r sgidiau dal dŵr uchel wneir o rwber erbyn heddiw ac sy’n fwy adnabyddus fel Wellingtons. Sgidiau marchogaeth uchel o ledr du ac yn cyrraedd hyd y cluniau oedd y Wellingtons gwreiddiol. Roeddent yn rhan o iwnifform swyddogion y fyddin tua 200 mlynedd yn ôl. Meddyliwch am Wellington, Napoleon, neu’r General Blucher yn rhyfel Waterloo yn y cyfnod hwnnw ar eu ceffylau yn eu dillad crand, llawn brêds aur, trowsus gwyn tyn posh, a’r sgidia uchel duon ’ma i gadw’r mwd oddiar eu trowsus gwyn tyn posh. Dyna’r ddelwedd roddodd yr enw Wellingtons ar sgidiau uchel byth oddiar hynny ymhobman, heblaw am Arfon a Môn. Yma fe’u henwyd ar ôl General Blucher, cyfaill Marcwis Môn, a’r blwtsiars yn troi’n bwtsiars yn Arfon.
Mae’r blodyn yn tyfu ‘yn sŵn y gog’, ond pam y cysylltiad rhwng traed y gog â’r blodyn? Sylwch ar y gwahanol enwau sy’n cyfleu hynny: Bwtsiars y gog, bacsiau’r gog, sannau’r gog a cheir hyd’noed ‘cuckoo’s boots’ yn yr enw Saesneg o Dorset a’r Amwythig. Os oes gan unrhyw un esboniad, fe fyddwn yn falch iawn o glywed.
Nid oes defnyddiau meddygol i fwtsiars y gog. Mae ’mbach yn wenwynig mewn gwirionedd. Yr unig ddefnydd, hyd y gwn i, yw i’r hylif gludiog ddaw o’r coesau ac yn enwedig o’r bylbiau gael ei ddefnyddio ar un adeg fel glud i rwymo llyfrau ac i sticio plu ar saethau.
Mae’n amlwg, felly, mai harddwch y blodau a’u persawr hyfryd, sy’n cyfri am eu poblogrwydd. Yng ngeiriau R Williams Parry, mae’n:
Dyfod pan ddel y gwcw,
Myned pan êl y maent,
Y gwyllt atgofus bersawr,
Yr hen lesmeiriol baent;
Cyrraedd ac yna ffarwelio,
Ffarwelio, – Och! Na pharhaent.