Bwrw bol yn Mhenygroes!

Cyfle i ddweud eich dweud

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.

A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian a Craig ab Iago yn cynnal cymhorthfa ar y cyd ym Mhenygroes.

Mae Siân yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Dyffryn Nantlle yn Senedd Cymru, ac fe gafodd Craig ei ethol i gynrychioli ward Penygroes ar Gyngor Gwynedd yn 2022.

Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.

Dweud eich dweud