Mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd iawn ag effeithiau dwy her ddifrifol sy’n wynebu nifer gynyddol o bobl yng nghymunedau Gwynedd ar hyn o bryd. Ar yr un llaw, mae pobl sydd efallai efo problemau iechyd neu symudedd sy’n ei gwneud yn anodd iddynt fyw’n annibynnol a chodi allan; ac ar y llaw arall, mae rheini sy’n ei chael yn anodd cael cartref fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain.
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio rhaglen Rhannu Cartref Gwynedd, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r ddwy broblem ddyrys hon. Yn ôl Richard Williams, Cydlynydd y cynllun
Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â heriau sy’n wynebu sawl unigolyn ar draws ein cymunedau. Mi fydda i yn cefnogi’r unigolion hyn trwy’r broses a wedi iddynt gael eu paru.
Mae Rhannu Cartref Gwynedd yn helpu pobl i gefnogi’i gilydd o dan yr un to. Mae rhywun sydd ag ystafell sbâr a sy’n chwilio am gwmni a rhywfaint o help ymarferol o gwmpas y tŷ – er enghraifft ychydig o help gyda siopa, coginio, llwytho’r peiriant golchi, neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro – yn rhannu eu cartref gyda rhywun sy’n chwilio am lety fforddiadwy.
Yn bwysicach na dim, mae Rhannu Cartref yn cynnig cwmni, cefnogaeth a chyfeillgarwch i’r ddau unigolyn.
Ni fyddai rhent yn cael ei godi ond bydd ffi fechan yn daliadwy gan y naill a’r llall er mwyn gweinyddu’r cynllun. Mae diogelwch yn holl bwysig i’r cynllun hwn a bydd y Cyngor yn dilyn proses drylwyr wrth baru’n ofalus. Yn ôl Richard mae’r holl gamau priodol yn cael ei dilyn i sicrhau bod y cynllun yn ddiogel.
Mae diogelwch yn flaenoriaeth a rydym wedi gosod pethau mewn lle yn barod ond hefyd yn dilyn proses trylwyr wrth weinyddu’r gwaith. Rydym yn gobeithio bod hwn yn brosiect fydd yn rhoi tawelwch meddwl i’r teulu hefyd, ac felly yn fwy diogel o wybod bod rhywun yn y cartref gyda’i anwyliaid.
Tybed a oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun hwn? Neu’n nabod unrhyw un allai elwa ohono?
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/RhannuCartref.
I holi am wybodaeth codwch y ffôn neu anfonwch neges draw i Richard ein cydlynydd ar 07388 859015 / rhannucartref@gwynedd.llyw.cymru