Ragflas gemau Mis Awst CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

Tra mae’r tîm cyntaf yn paratoi ar gyfer y tymor newydd, dyma ragflas o’r gemau sydd i’w ddod ar ddechrau tymor newydd sbon yn nhrydedd adran o’r Gymdeithas Pêl-droed Cymru. ⚽⬇

Llannefydd v Nantlle Vale 5/8/23, Cae Llanefydd. Cic gyntaf 14:30-
Bydd gem gyntaf o’r tymor oddi cartref yn erbyn LLannefydd sy’n newydd i’r gynghrair hon, nid yw’r timau ddim wedi chwarae ei gilydd ers sbel felly yn siŵr o fod yn gêm gyffrous. CPD Llannefydd FC

Nantlle Vale v Pwllheli 8/8/23, Maes Dulyn. Cic gyntaf 18:30
Braf iawn fydd croesawu gwrthwynebwr lleol nol i’r gynghrair, fydd eto yn gêm gyffrous i’r hogiau ar ddechrau’r tymor. CPD Pwllheli FC

Nantlle Vale v Brickfield Rangers 12/8/23. Maes Dulyn, Cic gyntaf 14:30
Yn ein trydedd gêm o’r tymor byddwn yn croesawu Brickfield Rangers i Faes Dulyn. Rydym bellach yn hen law ar chwarae’r tîm yma ac yn edrych ‘mlaen i’r gêm. O ganlyniad i’r tri allan o bum buddugoliaeth gafodd y tîm cyntaf yn eu herbyn tymor diwethaf. Brickfield Rangers

Llanrwst v Nantlle Vale 15/8/23 Gwydir Park. Cic gyntaf 18;30
Byddwn yn gorffen y mis yn chwarae Llanrwst oddi cartref mewn gêm ganol wythnos. Yn y gorffennol, mae ein gemau yn erbyn Llanrwst wedi bod yn llawn goliau ac yn anrhagweladwy felly edrychwn mlaen i’r gêm yna.Tymor diwethaf dim ond 4 pwynt roedd rhwng y ddau dîm yn gorffen y tymor! CPD Llanrwst United FC

Ar ddechrau tymor newydd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr fysa gallu ein helpu diwrnodau gêm. Does dim rhaid ymrwymo bob wythnos, rydym yn croesawu unrhyw un i ein helpu ar unrhyw achyslur i sicrhau llwyddiant y clwb. Cysylltwch os hoffwch helpu neu gyda diddordeb noddi. Rydym fel clwb yn gwerthfawrogi bob help a chefnogaeth.

Diolch, edrychwn ‘mlaen i weld chi gyd yn y gemau!

Gyda’n gilydd yn gryfach💙