Dydd Mercher, 22/2 cafwyd pnawn cynta Clwb Panad a Sgwrs yn Neuadd y Groeslon. Diolch i bawb a ddoth draw am banad, sgwrs a tamaid o gacan!
Mi fydd y clwb rŵan yn cael eu cynnal bob bythefnos gyda’r nesa bnawn dydd Mercher 8fed o Fawrth am 2:30pm. Croeso cynnes mawr i bawb!
Yn damaid i aros pryd tan bnawn Mercher, dyma ychydig o atgofion a hanes y neuadd i chi, wedi eu dethol o ddathliadau’r canmlwyddiant nôl ym mis Tachwedd.
Prydwen Jones
Yn y pumdegau byddai dynion o Sir Fôn yn dangos ffilmiau neu’n cynnal pictiwrs yn y Neuadd ryw unwaith y mis. Roedda nhw’n mynd i Neuadd Rhosgadfan hefyd gyda dau o hogiau o ardal Morfa Nefyn yn eu helpu ar adegau. Enw un o’r dynion o Sir Fôn oedd Hwfa a Wil oedd enw’r llall. Roedd rhai o’r ffilmiau’n codi ofn arna ni fel cynulleidfa. Un ffilm dwi’n ei chofio’n iawn yw King Kong ac roeddwn i a fy nghyfneither Llinos, oedd yn byw yn Nhre Wen ar y pryd, yn cuddio o dan ein cadeiriau!!! Byddai caneuon pop y dydd gan Slim Whitman ac eraill, yn cael eu chwarae cyn i’r ffilms ddechrau. Ar nosweithiau braf yn yr haf byddai rhai ohonom yn cerdded o’r Groeslon i Rosgadfan hefyd i weld ffilms.
Yn niwedd y pumdegau, dwi’n cofio parti i ddathlu’r Aelwyd yn 21ain oed gyda chyn-aelodau’n bresennol. Byddai’r Aelwyd yn cael ei chynnal yn y cantin yn Ysgol Penfforddelen ond byddai’r eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Neuadd bob blwyddyn. Byddai cystadlu brwd yn y cyfarfod pnawn yn ogystal â’r cyfarfod nos. Ffurfiwyd 2 dim gyda chystadlu mewn canu, adrodd, meimio, chwythu cribau, chwibianu ac yn y blaen. Yr aelodau hynaf (fel Mari Vaughan, Dosi, Wenna a Nesta) fyddai’n dysgu’r rhai ieuengaf.
Glenys Williams
Mae gen i atgofion melys iawn am Neuadd Y Groeslon sydd yn mynd nôl i fy mhlentyndod gan imi gael fy magu yn Rhes Grugan – reit dros ffordd iddi. Dwi’n cofio pobol yn son fel y bu aelodau’r pwyllgor gwreiddiol yn mynd o gwmpas y pentre i ofyn pwy oedd yn dymuno cyfrannu arian, cadeiriau neu ddodrefn i lenwi’r neuadd. Adeilad sinc digon oer oedd o. John Price o Rathbone Terrace, oedd un o’r gofalwyr cyntaf a bu fy mrawd Tegai yn dal y swydd yn y 60au.
Cynhaliwyd cyngherddau lawer yno gan yr “airmen” o Belan, Dinas Dinlle. Roedd y neuadd yn llawn dop adeg hynny ac roedd digonedd o hwyl i’w gael. Cynhaliwyd carnifal yn yr haf yng nghaeau Cae Iago a byddai mam yn gneud dillad i ni blant efo bagiau blawd Canora gwag. Byddai’n hel papura dal menyn a margarine, eu llnau’n lan ac yna’n eu gludo ar y dillad i greu gwisgoedd ffansi crand iawn.
Roedd cyfarfodydd Women’s Institute yn cael eu cynnal yn y Neuadd. Roedd mam yn aelod. Bu Jumble Sales yn ogystal â chlinig plant. Gwraig Glyn Carrog, Dolydd, oedd yn gyfrifol am y clinig.
Yn y chwedegau cynnar mi fyddai Mr a Mrs Hughes-Evans o Rhoslan, mam a tad Faith, Heather, John a Dawn yn Cynnal dosbarthiadau dawnsio “Old Time Ballroom” ar fore Sadwrn.
Mi oedd llawer o blant y pentre yn mynd i’r dosbarthiadau hyn ac yn wir mi oeddan ni yn eistedd arholiadau dawnsio. Pawb yn mynd yng nghar Mr a Mrs Hughes-Evans i Rhyl ar ddydd Sul – ac ar ôl y canlyniadau mi fydda nhw yn trefnu dawns yn y Neuadd I roi’r medalau i ni’r plant.
Amser hapus iawn.
Tom Alun Roberts
Dwi’n n cofio bod ar Bwyllgor Adloniant y Neuadd yn y 60au cynnar ac efo Mr Jac Williams wedi trefnu nifer o ddawnsfeydd ar nos Wener yn y Neuadd, er mwyn codi arian. Un grŵp poblogaidd oedd Dino and the Wilfdfires o Borthmadog ac ambell noson efo Helen Wyn, merch ifanc a ddaeth wedyn yn enwog fel Tammy Jones. Roedd y dawnsfeydd mor boblogaidd roedd rhaid troi rhai pobl yn ôl a chael Plismon ar y drws i gadw trefn; roedd pobl Sgwâr Glynllifon yn cwyno am y sŵn trannoeth! Roedd bysiau yn dod o Borthmadog a Chaernarfon ac un o’r rhai a drafeiliai ar y bws o Gaernarfon oedd Mr Wil Lloyd Dol Elen. Roedd yn costio punt i fynd mewn a llwyddodd y Pwyllgor Adloniant i glirio dyled y gwaith adeiladu o’r 50au.
Maldwyn Lloyd
Dwi’n cofio’r Dawnsfeydd, ffan mawr o Dino a chofio’r grŵp yn canu caneuon Gerry and the Pacemakers, a lot o rei eraill. Dwi wedi bod mewn amryw o grwpiau ei hun ac efo’r grŵp Tumbledown Wind cafwyd noson i godi arian yn y Neuadd yn 1981. Buont yn canu yn Wembly ar ôl hynny. Geshi ddim caniatâd gan y Pwyllgor Neuadd yn 1970 i ymarfer ar y llwyfan efo‘r gitâr (ond cael croeso yn y Church Room!) ond fuo ni ar y llwyfan yn canu i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Y Groeslon.
Mair Roberts
Bûm yn gwirfoddoli yn y clwb Bytholwyrdd am oddeutu ugain mlynedd yn paratoi paned i’r aelodau a darparu te Gŵyl Dewi yng nghwmni Mrs Price Williams, Heulfryn a Mrs Bessie Williams, Frondeg. Yn ddiweddarach, Mrs Olwen Morris, Mrs Mari Roberts a Mrs Annie Williams oedd fy nghyd weithwyr.
Mae gennyf atgofion melys iawn am yr aelodau – bu’n fraint cael bod yn eu cwmni.
Angharad Tomos
Does gen i ddim llun, gan nad oedd gen i gamera yr adeg honno. Does gennych chi fawr o ddim pan da chi’n bymtheg oed. Ond dyna’r cyfnod yn fy mywyd lle roedd Neuadd y Groeslon yn lle pwysig iawn yn fy mywyd gan mai dyna lle cynhelid Aelwyd yr Urdd. Roedd sawl aelwyd mewn gwahanol bentrefi, ond i Gangen y Groeslon ron i’n mynd. Dwi’n cyfeirio rŵan at gyfnod cyn ffonau symudol, a doedd gennym ddim set deledu yn ein cartref, felly doedd bywyd i’r arddegau ddim yn hynod gyffrous.
Ond mawr oedd yr edrych ymlaen at nos Wener, a’r ddwy awr a gaem yn Yr Aelwyd. Cymdeithasu mae pobl ifanc eisiau ei wneud, ac roedd Yr Aelwyd yn cynnig hynny inni gael siarad, siarad a siarad. Ambell waith, byddem yn cael ein denu at y bwrdd snwcer … Emrys Price Jones oedd yn cynnal yr aelwyd, sef fy athro Mathamateg, a Mr Hughes, ei dad yng nghyfraith (Huws Bach), fyddai yn ei gynorthwyo. Ddaru ni erioed ddangos ein gwerthfawrogiad i’r rhain am roi o’u hamser rhydd i gynnal y gangen. Weithiau byddai rhywun o’r tu allan yn dod i roi sgwrs inni, ond cyndyn iawn oeddem i fynd i wrando arnynt, toedd hanner awr o’n hamser cymdeithasu yn cael ei wastraffu?
Yn niffyg trafnidiaeth gyhoeddus, byddai’n rhaid i mi fynd ar ofyn fy rhieni i gael cyrraedd Y Groeslon, ac i aelwydydd eraill y byddai fy chwiorydd yn mynd. Yna, am naw o’r gloch, byddwn yn ymlwybro i lawr at y sgwar i ddefnyddio’r ciosg. I arbed arian, cwbl fyddwn i yn ei wneud fyddai galw’r rhif, gadael i 3 ‘bib’ fynd heibio, a dyna oedd y côd i’m rhieni ddod i’m cyrchu o Lanwnda. Mater o aros oedd hi wedyn.
Neuadd y Groeslon yn y cyfnod hwn oedd uchafbwynt fy mywyd, a byddwn yn edrych ymlaen cymaint am Nos Wener. Yr unig achlysur arall y byddwn yn mynd yno oedd i Eisteddfod Groeslon. Cofiaf awyrgylch yr Eisteddfod yn iawn – y lle yn llawn hyd at yr ymylon, y ffenestri wedi stemio, a’r cystadlu yn mynd ymlaen ymhell iawn i’r nos. Atgofion da iawn.
Bronwen
Yn y chwedegau cynnar mi fyddai Mr a Mrs Hughes-Evans o Rhoslan, mam a tad Faith, Heather, John a Dawn, yn cynnal dosbarthiau dawnsio “Old Time Ballroom” ar fore Sadwrn.
Mi oedd llawer o blant y pentre yn mynd i’r dosbarthiadau hyn ac yn wir mi oeddan ni yn eistedd arholiadau dawnsio. Pawb yn mynd yng nghar Mr a Mrs Hughes-Evans i Rhyl ar ddydd Sul – ac ar ôl y canlyniadau mi fydda nhw yn trefnu dawns yn y Neuadd i roi’r medalau i ni’r plant.
Amser hapus iawn.
Gwyn Edwards
Dyma lun ohonaf o flaen Neuadd Groeslon pan oeddwn tua 4 neu 5 oed. Fe’i tynwyd ar ddiwrnod y carnifal blynyddol a fyddai’n cael ei gynnal yn ystod yr haf, felly mae’n debygol mai yn 1960 neu 1961 y tynwyd y llun. Roedd y carnifal yn un o brif ddigwyddiadau’r haf yn y Groeslon a byddai gorymdaith drwy’r pentre a fyddai’n gorffen yn y Neuadd, ble fyddai gwobrau yn cael eu rhoi i’r rhai a oedd wedi plesio’r beirniad gyda’u gwisgoedd ffansi. Yn y llun roeddwn wedi gwisgo fel cowboi a dwi’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i mi gymryd rhan yn y carnifal, ond nid y tro olaf.
Ceinwen Griffiths
Ar ol y rhyfel, tua’r 40au, daeth pethau i ddigwydd eto yn Neuadd Y Groeslon. Dramau, cyngherddau a ryw bwyllgorau ac ati. Adag hynny wrth gwrs doeddna ddim lampau stryd, oeddani’n goro mynd yng ngolau’r lloer os oeddna un, a dwi’n cofio ni’n cerad adra ryw dro ryw hannar dwsin ohono ni o’r topia a dyma ni’n dod i ryw dduwch mawr yng ngiat Tanfforddelen, a be odd’na on gyrr o ferlod mynydd di dod lawr am dro a ninna di dychryn gweld nhw a nhw di’n dychryn gweld ni. Ond ddigwyddodd dim byd a naetho ni jyst pasio nhw a mynd adra.
Fy nhad Benjamin Griffiths, Bryn Afon gyda help ei ffrindiau, yn 1953, nath ail osod y giat yma ar y neuadd, a chodi a trwsio’r clawdd.
Mi oeddna lawar o betha’n cael eu cynnal yn y Neuadd. Clwb garddio, women’s institute a dechra’r 60au oedd y clinig yn cael ei gynnal yma a dwi’n cofio un adag roedd rywun di trefnu i gael babyshow a cofio genod o Benygroes i ddwad efo’u plant, wedi cerdded yr holl ffordd o Benygroes efo’r goetshysh i Groeslon. A gaethno ni ddiwrnod bach da iawn.
Mi oedd na ryw gymdeithas yn y Neuadd ac mi gaethoni helfa drysor rhyw chydig o weithia – helfa drysor ar y llwybr i lawr am Llwyn Gwalch ac ati – a pawb yn mwynhau, ond roedd rhei plant yn rhy fychan i wbod be i neud, ac yn mynd ar goll ac odd isio chwilio amdanynhw wedyn.
Fydda mam yn perthyn i’r Bytholwyrdd sef clwb yr henoed – ac mi fyddana glwb reit gry yna ar un adag yn y chwedegau, wedyn fushi’n aelod o’r clwb fy hun, ac yn arweinydd ar ôl John Lodge. Mi oeddna rywun yn dod i siarad aton ni – ryw ddarlith fach neu sgwrs – mi oedd yn le reit handi i ddod i weld dy ffrinda – ac mi oeddanin mynd ar ambell drip i Llandudno. Cyn y Nadolig fyddani’n mynd am ginio i westy crand. Ac amsar diolchgarwch mi oeddanin mynd i’r ysgol ac mi fyddanin cael cyngerdd bach gan y plant a chael te bach wedyn ar ôl darfod.
Ar ddiwedd y 70au a dechra’r 80au fushi yn aelod o Merched y Wawr. Wel gawson ni hwyl adag hynny. Mi oeddanin gwneud ryw noson fach hwyliog o sgetsys bach ac mi odd Esyllt Owen yn chwara Piano ac mi odd Olga Lloyd Jones yn dod o hyd i ryw sgestys bach a petha i ddysgu, ac mi oddanin cal hwyl mawr ar wneud hynny a chwerthin. Mi oddani’n gwneud noson fach yn y neuadd, ac mi odd pawb yn mwynhau’n arw.
John M Griffiths, ‘John Llannerch’
Roedd John yn byw yn Llnaerch, Groeslon, ac aeth i ysgol Penfforddelen ac yna i chwarel fel ei dad. Yn 1937/8 fe gafodd siawns i gael prentisiaid gyda BSA yn Birmingham fel ‘wireman’ – Trydanwr fel y gwyddom heddiw.
Bu yno tan 1939 pan dorodd y Rhyfel allan ac fe’i ddewiswyd i weithio ar awyrle Chattham, Dinas Dinlle, lle bu’n rhoi trydan ar yr holl adeiladau ar gyfer yr RAF.
Mae ganddo gof un diwrnod pan oedd wedi cerdded lawr i’r pentref at siop Les o glywed cynnwrf o gwmpas yr orsaf dren. Erbyn mynd lawr yno roedd tren hir gyda dwy injan yn ei thynnu yn sefyll yn yr orsaf a chanoedd o evacuees arni. Daeth llawer o blant oddi ar y tren a phrifatho’r ysgol a phobl eraill yn eu croesawu. Aeth y tren ymlaen ymlaen i Benygroes a phentrefi eraill gyda llawer o blant dal arni. Ar y platfform creuwyd dwy linell o blant a’u tywys i fyny i’r Neuadd lle roedd Miss Thomas ac athrawon eraill ynghyd a gwirfoddolwyr yn eu cofrestru ac yn eu rhannu i deuluoedd y pentref.
Roedd yn mynychu yr “institute” Groeslon fel y galwyd y Neuadd yr amser hynny a chwarae snwcer efo hwn a llall. Yn tynnu am ei ugain oed cafodd wadd i ymuno â’r Homeguard oedd yn cyfarfod yn y Neuadd yn rheolaidd. David Griffith, Grianfa oedd yn gyfrifol amdanynt a John Richard yn sarjant. Rhai o’r gweddill oedd Gwilym Davies, Minffordd; John Griffith, Glanrafon; Bob Thomas, Ty Mawr; Robin, Llwyn Piod; Wil John, Postman a Bob Verdan a’i frawd.
Roedd llawer o’r dynion wedi cael eu galw i fyny i’r Rhyfel a Robin Owen, Rhandir oedd y cyntaf. Pan ddaeth Robin adref ‘ar leave’ ac yntau erbyn hynny yn Gorporal roedd yn dysgu’r dynion gyda hyfforddiant rifles a gorymdeithio. Buont yn marchio lawr i Fort Belan i wneud ymarferiadau.
Tua 1940/1 cafodd John wadd gyda’u gyfaill Gwilym Davies, Minffordd i ddod yn aelod o Bwyllgor y Neuadd. Roedd dau o’r hen aelodau oedd yn cwyno o’r llwch chwarel wedi rhoi gorau iddi. Roedd angen gwaed newydd. Cofiodd mai Alwyn Hughes Jones oedd y cadeirydd ac Ivie Parry, dipyn o architect oedd yn gweithio yn Glynllifon oedd yr ysgrifennydd.