Roedd y neuadd yn Nhalysarn llawr bwrlwm ac ysbrydion gai ein bod yn dathlu Calan Gaeaf a’n Cyndeidiau. Digonedd o stondinau amrywiol yn gwerthu trwy gydol y bore. Bu Cornel y Plant yn boblogaidd – gwneud hudlath a chael peintio gwynebau – am ddim! Mae Katie o Ynys Mon yn gwirfoddoli ar gyfer Gwobr Efydd Dug Caeredin ac yn helpu hefo stondin te p’nawn y Fron. Cofiwch ein bod yn fwy na bodlon rhoi cymorth i bobol sydd angen tystio eu gwaith gwirfoddoli. Cysylltwch a’r pwyllgor – ma na ddigon ohonom o gwmpas y farchnad!
Yn y stafell fach roedd gweithdy Makaton ac Arwyddo dan ofal Ceri – difyr iawn a hwyliog a hedfan wnaeth yr awr. Cawsom ddiweddu’r sesiwn trwy arwyddo dwy gan – Yma o Hyd oedd un ohonynt. Diolch i Hannah o’r Groeslon am helpu Ceri (a ni!) Bydd Ceri yn cychwyn cwrs Makaton yn y Galeri yn y flwyddyn Newydd – sgil arbennig o dda i bawb ei gael i gyfathrebu. Ar ol y sesiwn yna, cafwyd cyfle i ffeltio gwlyb a gwneud madarch. Wel son am hwyl a chwerthin a pob un yn browd iawn o’u cynnyrch. Diolch i Nicole am gynnal y sesiwn.
Stondin mis Medi oedd y Farchnad a gwerthwyd nifer o eitemau wedi’i gwnio, cacennau a raffl.
Roedd lluniaeth wedi ei drefnu gan y pwyllgor , a dyma benderfynnu ar enw – Caffi Tylluan a balch iawn rydym i ddefnyddio logo Charli Manchester-Evans, Ysgol Bro Llifon. Cafodd docyn anrheg i ddiolch am ei gyfranniad. Bu gwerthiant mawr ar frechdannau selsig a bacwn, crempogau ac yna dewis o 4 math o gawl cartref hefo bara ynghyd a paneidiau dirifedig o de a coffi.
Dathlu cyndeidiau oeddem gyda wal yn arddangos straeon a llyniau o’r ardal – yn fwyddydd, y carnifals, y chwareli a mwy. Hynod ddiddorol. Hoffem ddiolch i’r stondinwyr am fynychu ac wrth gwrs I’r holl gwsmeriaid am gefnogi. Cofiwch am y Farchnad mis Rhagfyr – bydd canu carolau hefo Seindorf Dyffryn Nantlle, gwneud addurniadau Dolig gwyrdd a llawer mwy!