Ar ol misoedd o gynllunio a sawl cyfarfod daeth diwrnod mawr lansio Marchnad Lleu , Mai 20fed yn y Ganolfan yn Nhalysarn. Y bwriad yw ceisio cadw arian yn lleol trwy werthu cynnyrch, bwydydd a chrefftau lleol. Golyga hyn llai o ddefnyddio ceir i ymateb i newid hinsawdd hefyd.
Roedd y pwyllgor yna toc ar ol 7:00 i osod yn neuadd fyny yn barod i’r stondinwyr gyrraedd – fflagiau, posteri ayyb Diolch i Nigel a chriw o wirfoddolwyr Cyfeillion Talysarn am eu gwaith o drefnu parcio gan fod twrnament pel-droed yn y pentref hefyd y penwythnos yna. Trefnwyd y lluniaeth gan Carys a chriw o helpars a buan iawn daeth yn amser i’r cyhoedd gyrraedd am 9:30. Bu hen siarad, prynu a chyfle am banad cyn yr agoriad swyddogol gan Gynghorydd Talysarn Peter Thomas. Diolch iddo am ymgymeryd a’r dasg. I ddilyn, cawsom y ‘Band’ i chwarae chydig o alawon Cymreig a mawr yw ein diolch iddynt am roi eu bore Sadwrn i’r Farchnad.
Stondin y Mis oedd Y Bâd Achub ble roeddent yn trafod diogelwch yn y dwr, gwerthu nwyddau a chodi arian i’r elusen. Daeth dau ymlaen i wirfoddoli hydynoed! Os ydych am gael Stondin y Mis i godi arian i’ch mudiad/cymdeithas ffoniwch Anwen – 07748697325.
Cafwyd ystod eang o Stondinau – planhigion, blodau, llyniau, llysiau a colur i enwi dim ond rhai ac mae’n argoeli’n dda at mis nesaf hefo 3 stondin arall wedi llogi byrddau hyd yma. Croeso ichwi gysylltu i archebu bwrdd – marchnadlleu@yahoo.com
Jane oedd wedi trefnu Cornel y Plant hefo gweithgareddau am ddim i ddiddori’r plant. Cawsant gyfle i wnio clogyn gwyrdd i teddis i greu ‘SuperTed’ i achub y planed ac wedyn lliwio cartwnau am gasglu sbwriel. Gobeithiwn gynnig sgyrsiau byr, sesiynau blasu a rhannu gwybodaeth yn fisol yn ogystal a gwerthu a chael panad a sgwrs.
Gorffennaf bydd Swyddog Lles ADRA ar gael am sgwrs, Yr Orsaf yn rhoi gwybodaeth ac hefyd byrddau Ffeirio Gwisg Ysgol. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio logo i’r farchnad a bydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi Gorffennaf 15fed.
Dewch i gefnogi, i fwynhau a chael cyfle i brynu cynnyrch lleol i bobol leol. Trydydd Sadwrn o’r mis rhwng 9:30 ac 1:00. Croeso cynnes ar gael!