Gwehyddu Helyg

Sesiwn Clwb Celf mis Ionawr

angharad tomos
gan angharad tomos

Dyma luniau y dwsin o blant ddaeth i sesiwn gyntaf y Clwb Celf yn 2023, dan arweiniad Eirian Muse. Gyda Gwyl Santes Dwynwen yn agosau, y dasg oedd ffurfio calon wedi ei gwneud o helyg. Wedi dwy awr o waith, cafwyd canlyniadau gwych. Mae’r sesiynau am ddim a gofynnwn i rieni aros gyda phlant dan 8. Mae’r rhieni yn gwerthfawrogi y siawns i gymdeithasu dros baned a chael cyfle i droi eu llaw at rhywbeth gwahanol.

Sesiwn ffeltio fydd yna ar Chwefror 11, rhwng 10.30 a 12.30. Nicole Le Maire fydd yn arwain a chynhelir y sesiwn yn Neuadd Goffa Penygroes. I gadw lle, cysylltwch â Ben ar benica@gn.apc.org

1 sylw

Wendy Jones
Wendy Jones

Mor braf gweld plant yn gwneud rhywbeth allan o ddefnydd mor naturiol a helyg.

Mae’r sylwadau wedi cau.