Cerdded y Comin

Am dro yn fy milltir sgwar

Ceridwen
gan Ceridwen
IMG_20191019_125850
IMG_20230322_104955
IMG_20230322_100904

Ar ol deg dwrnod o law roedd gweld y rhagolygon am fore braf sych yn falm i’r enaid.  Rhoi y golch ar y lein a ffwrdd a fi ar hoff gylchdaith . Awr a hanner o awyr iach, golygfeydd godidog  a llefydd hanesyddol.

Cychwyn uwchben Dolnennan, sef yr enw gwreiddiol ar safle Y Groeslon ac am y lon i gyfeiriad Ffatri Tryfan, lle roedd hen Felin Wlan yn cael pwer o afon Llifon. Heibio ffermdy Hafod Boeth, lle roedd fy hen nain a taid yn byw yn y 30au. Mae’r beudy dros y lon iddo werth ei weld am ei adeiladwaith cywrain. Lawr am yr afon a’r bont lle mae llechen I gofio am Griffith Davies Beudy Isaf. Gwnaeth gymwynas enfawr i drigolion yr ardal drwy rwystro Stad Glynllifon rhag cipio tir comin Uwchgwyrfai ym 1827.

Troi ir dde ym mhen draw y lon I fyny hen lon drol am Braichtrigwr. Neu Braich y Drygwr ar fap o’r 1800au.  Mae amryw o lwybrau yn fan hyn, oll yn arwain gweithwyr fyny i’r Chwareli erstalwm. Rwyf yn hoffi troi i’r chwith heibio Ffermdy Cefn Tryfan ac ymlaen am Cynlas. Wedyn troi fyny ar y lon a cyrraedd ardal Bryngwyn.  Lle difyr efo digon o hanes . Roedd lein bach yn dod lawr o Chwareli Moel Tryfan i Tryfan Junction, ac ymlaen i’r Cei  Llechi yng Nghaernarfon. Mae rywfaint o’r arglawdd i’w weld yn y caeau o hyd, yr inclen  uwchben Capel Bryn, ac adfail y Drumhead ar lon Cesarea. Mae llwybr Bryngwyn yn mynd ar yr hen lein draw am Rostryfan, ac yn ddifyr iawn.

Rwyf yn cefnu ar adfail Stesion Bryngwyn a croesi pont fechan. Mae yn bosib cario ymlaen fyny yr allt am ardal Bwlch y Llyn, Moel Smytho, Moel Tryfan a Cesarea efo’i golygfeydd godidog o Grib Nantlle.

Ond dim heddiw, rwyf yn troi i’r dde ar lwybr reit wlyb, am Hafotty Wen a Charmel. Saib bach ar y bont fechan sydd wedi ei chodi yn gyfangwbl o lechi, ac ar wyneb y bont enwau a dyddiadau wedi eu crafu ar y lechen. Rywyn arall yn cael saib, flynyddoedd yn ol.

Giat mochyn neu ddwy rhwng Bryngwyn a Charmel, caeau bach del a twmpethi  brwyn caled yn ddefnyddiol rhag cael socsan. Cyn hir cyrraedd y tarmac a Lon Batus. I’r dde yn ol ar lwybr troed i gyfeiriad Glyn Meibion. Neu Llyn y Meibion ar y map hwnnw o’r 1800au. Mae hen lon drol hyfryd iw gweld yn mynd am Nant yr Hafod, lle roeddem yn arfer ymdrochi erstalwm (a trio pysgota!)  Mae llwybr troed yn cario ymlaen yn ol am Hafod Boeth.

Ond lawr a fi ar fy mhen drwy’r caeau mawr gwyrddion, tonnau enfawr i’w gweld yn Llanddwyn a niwl yn dod mewn dros For Iwerddon.  Bron cyrraedd adra, sgwrs efor defaid, casglu y dillad sychion ac am y ty; mae’n amser paned ddeg !

Cofiwch fynd am dro bob tro mae yna gyfle!

2 sylw

Anwen Williams
Anwen Williams

‘Roedd yn ddifyr darllen am fy milltir sgwar, diolch o galon am gael ei weld trwy lygaid gwahanol. Cefais fy magu yn yr hen Ffatri Tryfan a ddoe ddiwetha’ ’roeddwn yn codi ymwybyddiaeth hanesydd bro cyfagos gwybodus iawn o’i fodolaeth felly mae’n amlwg mai cof gwerin lleol iawn sydd yna o’r fro arbennig hon a’i nodweddion er fod gwefan Cof y Cwmwd yn adnodd gwerthfawr gyda diolch i Gareth Heulfryn Williams am ei waith caboledig. Mae’r ardal yn ddifyr ac yn fy atgoffa o’r adegau (rheolaidd) y byddwn yn osgoi gwneud fy ngwaith cartref gan ddewis mynd am dro a gwneud rhyw gymun o waith ar fy nglin yn hwyr gan ffafrio fy hoff feysydd diddordeb/athrawon… Wrth gerdded rhwng Cefn Tryfan a Chynlas mae cyfle i ystyried ymdrech y dyn dall gododd y wal unionsyth ar ochr y lon drol a byddaf yn cofio cerdded i weld nain ar droed Moel Tryfan neu’n dychwelyd o fy ngwers piano yng Nghwm (er gwirioni efo cerddoriaeth ‘doedd fy nwylo ddim yn ufudd a byddai eistedd ar y bont a chwilio am flodau Ceg Nain ac ati ar fy ffordd adref yn ddifyrrach!). Yn ardal Y Bryn mae Afon Llifon yn codi gan gynnig tro arall i’w dilyn i’r mor – tro gwerth chweil ar ddiwrnod braf er fod dipyn o dir preifat sy’n golygu cysgodi yn hytrach na glynu’n gaeth at y glannau. Er mai ardal wledig dawel welir heddiw dylid dychmygu sut oedd yr afon fechan chwim yn darparu grym i bweru gwaith llechi Nant yr Hafod, y ffatri wlan, Felin Forgan, Melin Llwyngwalch a Melin Glynllifon. Tro arall yw i gysgodi’r hen ffordd a gwersyll Rufeinig heibio Felin Forgan a Gilwern Isaf i gyfeiriad sgwar Rhos Isa gan fynd am i fyny ar hyd lonydd cul y pentref am Lein Bryngwyn ac yna i Rostryfan, Bicell a’r Bontnewydd. Maddeuwch y sylwadau hirfaith a digon dryslyd, mae’r erthygl wedi cyffwrdd fy nghalon a hynny cyn mynd i gwblhau gorchwyl drist pnawn ’ma sy’n golygu cau pennod bwysig yn hanes fy nheulu.

Ceridwen
Ceridwen

Mae yn ardal arbennig iawn, ac braf yw gwybod mwy amdani. Dwi yn cofio y blodau Ceg Nain yn yr afon hefyd!! Diolch.

Mae’r sylwadau wedi cau.