Llys-gennad Talysarn

Cofio Cledwyn Jones, Triawd y Coleg

angharad tomos
gan angharad tomos
19A9E9A1-7FBC-4D54-AF87
9A083AB7-FAD4-41D8-BCFB
9210A5DA-7CA0-46CD-ADDA

Ar Hydref 18ed, yn 99 oed, bu farw y chwedlonol Cledwyn Jones, Triawd y Coleg, a mawr yw’r golled. I ni, yma yn Nyffryn Nantlle, rydym wedi colli un a gofnododd hanes pentref Talysarn ac a gyfrannodd yn helaeth at fywyd Cymru, o ran hanes, diwylliant a cherddoriaeth. Da dweud fod ei gyfrolau yn aros. Hyd y diwedd, roedd ei gof yn glir fel grisial a gallai ddwyn straeon i gof oedd wedi digwydd bron i ganrif yn ol.

Yn 2003, ysgrifenodd Mi Wisga’i Gap Pig Gloyw, cyfrol werthfawr am hanes J.Glyn Davies (Fflat Huw Puw) gan gynnwys llawer o’r caneuon, a’r cefndir iddynt. Yn 2009 y gwelodd Fy Nhalysarn I, (Hanes y pentref drwy atgofion) olau dydd, ac yn 2013 ymddangosodd Atgofion Awyrennwr, sef hanes Cledwyn yn yr Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bu’n athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle cyn treulion naw mlynedd yn Ysgol Friars, Bangor fel athro Addysg Grefyddol a Phennaeth yr Adran Gerddoriaeth. Ym 1961 fe’i penodwyd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair, ac am gyfnod bu’n ddarlithydd yn Adran Addysg Prifysgol Bangor.

Pan ddadorchuddiwyd plac i gofio Gwilym R.Jones ar Cloth Hall, Talysarn, ym 2006, Cledwyn Jones oedd y dewis amlwg. Cyfrannodd erthygl yn ddiweddar i Lleu am ei atgofion, a tan y diwedd, cymerai ddiddordeb byw ym mywyd y dyffryn, gan ymweld yn aml. Ef yn annad neb yn y dyddiau diwethaf oedd cof y dyffryn. Rhyfedd meddwl y gallai gofio ei hun yn fachgen yn prynu Llyfr Mawr y Plant o Cloth Hall am dri swllt a chwe cheiniog pan oedd yn 8 oed ym 1931. Cafodd yr arian drwy werthu mwyar duon. Fel mab i chwarelwr, roedd yn gyfarwydd iawn a chwareli Dyffryn Nantlle ac roedd ganddo fyrdd o straeon.

Teitl ei erthygl olaf i Lleu oedd ‘Canu, Canu, Canu’ a chofnododd sut roedd gan Dalysarn draddodiad cerddorol eithriadol, o’r Talysarn Glee Singers, Mary King Sarah, Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, heb son am Gwmni Opera y Dyffryn. Mae’r traddodiad wedi para gyda Talysarn yn gartref i’r cyfansoddwr Robert Arwyn ac mae gennym Gor Meibion Dyffryn Nantlle a Lleisiau Mignedd. Rhyfeddol meddwl na chafodd Cledwyn wers gerddoriaeth yn ei fywyd, daeth y cyfan iddo yn naturiol. Trodd at yr Eglwys, a rhoddodd gyfraniad mawr i gerddoriaeth corawl, cerddoriaeth eglwysig a chanu plygain. Ond diau mai fel aelod o Driawd y Coleg y bydd y mwyafrif yn cysylltu ei enw – triawd na chododd geiniog erioed am noson o adloniant gyda llaw, dim ond rhoi o’u hamser a’u doniau i ddiddanu cenedl y Cymry. Cydymdeimlwn a’r teulu. Dyma ddyfyniad o’i lyfr ar J Glyn Davies lle mae’n trafod y gan i blant, ‘Pwy Sy’n Dwad Dros y Bryn’, ‘Rwy’n cofio eistedd ar lin Mam yn 20au’r ganrif ddiwethaf yn y bore bach, ychydig ddiwrnodau cyn yr Wyl, a gwrando yn gegrwth arni’n canu’n ymbilgar i Sion Corn yn y simdde.’

I feddwl mai yn 14 Eivion Terrace, Talysarn, y digwyddodd yr olygfa deimladwy honno, pan oedd Talysarn yn bentref uniaith Gymraeg.