Cofio Cledwyn

3 Mehefin 2023, Talysarn – dyddiad ar gyfer y dyddiadur

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

“Ym mhentref Tal-y-sarn y gwelais olau dydd am y tro cyntaf, ac yn ôl fy mam, ar yr ail o Fehefin, 1923, tua hanner dydd ar ddydd Sadwrn, a hithau’n ddiwrnod chwilboeth. Yn ystod ei blynyddoedd olaf, byddai fy mam yn fy atgoffa yn rheolaidd o’r diwrnod tyngedfennol hwnnw.” 

Cledwyn Jones yn Fy Nhal-y-sarn i, t. 14

Mae’r trefniadau yn dechrau cymryd lle ar gyfer gŵyl Cofio Cledwyn, fydd yn cael ei chynnal yn Nhalysarn 4 wythnos i heddiw, sef dydd Sadwrn 3 Mehefin 2023, y penwythnos lle byddai Cledwyn Jones wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed.

Bu farw Cledwyn ym mis Hydref y llynedd, yn 99 mlwydd oed a’i gof am ddyddiau ei blentyndod yn mhentref bach y Nant mor fyw ag erioed.

Byddai rhai ohonoch yn ei adnabod fel awdur cyfrolau fel Fy Nhal-y-sarn i, Mi Wisga’i Gap Pig Gloyw ac Atgofion Awyrennwr; eraill efallai yn ei gofio fel athro ym Mhen-y-groes ac yna Ysgol Friars, neu fel darlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair ac Adran Addysg Prifysgol Bangor.

Ond mae’n debyg mai fel aelod o’r grŵp harmoni enwog a ffurfiwyd yn y Coleg ym Mangor yn 1945 yr oedd yn fwyaf adnabyddus wrth gwrs – Triawd y Coleg. Gyda’i gyfeillion oes, Meredydd Evans a Robin Williams, bu Cledwyn yn diddanu cynulleidfaoedd ar y radio ac mewn neuaddau ledled Cymru gyda chaneuon fel ‘Triawd y Buarth’, ‘Pictiwrs Bach y Borth’ a ‘Hen Feic Peni-Ffardding fy Nhaid’; ‘y grŵp pop Cymraeg cyntaf’ chwedl rhai.

 

Yn naturiol, roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn i Cledwyn, a dyma oedd testun ei ddarlith yng nghyfres flynyddol Llyfrgell Penygroes yn 1990; hanes cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle o dan y teitl O Na Byddai’n Haf o Hyd.

Clawr O Na Byddai'n Haf o Hyd gan Cledwyn Jones
O Na Byddai’n Haf o Hyd : Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle gan Cledwyn Jones

Mae’r ddarlith yn olrhain yr hanes o’r cyfnod cynnar drwy’r Chwyldro Diwydiannol i’r cyfnod a ddilynodd dyfodiad sol-ffa yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, gan gyfeirio’n helaeth at unigolion a grwpiau fu’n gyfrifol am y bwrlwm cerddorol rhyfeddol a welwyd yn y Dyffryn. Drwyddi draw, mae’n cydnabod y dylanwad a gafodd yr etifeddiaeth yma ar ei ddiddordeb personol, a’r holl gyfleoedd a gafodd yn sgil bywiogrwydd y gymdeithas a’r capel.

“Dyma “Fy Etifeddiaeth Gerddorol” yr ymfalchïaf ynddi, a thra byddaf byw diolchaf i’r gwerinwyr gweithgar, deallus a diflino hynny a weithiodd mor galed a diymhongar i roddi i’n cenhedlaeth ni sail gerddorol mor gadarn.”

Cledwyn Jones yn O Na Byddai’n Haf o Hyd, t. 51

Mae’n addas felly ein bod yn cofio ac yn dathlu bywyd Cledwyn Jones ar ganrif ei eni gyda gŵyl fydd yn rhoi lle dyledus i gerddoriaeth ddoe, heddiw ac yfory yn Nyffryn Nantlle. Bydd y diwrnod yn cynnwys taith gerdded, dadorchuddio plac i gofio Cledwyn ac adloniant ysgafn yn y Ganolfan yn Nhalysarn.

“Yn gymharol ddiweddar, darllenais erthygl mewn cylchgrawn daearyddol yn disgrifio’r modd yr amrywiai’r tywydd o flwyddyn i flwyddyn, a chyfeiriwyd yn arbennig at haf 1923, ac yn ôl yr awdur, yr haf gwlypaf ers canrif a mwy. Ymddengys felly i mi gael fy ngeni ar yr unig ddiwrnod heulog, chwilboeth ym Mehefin 1923.”

Cledwyn Jones yn Fy Nhal-y-sarn i, t. 14

Gobeithio’n wir y dydd hi’n ddydd Sadwrn heulog braf ar 3 Mehefin 2023, ac y bydd modd i chi ymuno gyda ni i ddathlu bywyd Cledwyn Jones. Does dim angen cofrestru, ac mae croeso i chi ymuno ar unrhyw adeg neu ar gyfer un rhan yn unig.

Amserlen y diwrnod hyd yma:

10.15 Ymgynnull ym maes parcio Talysarn. Taith gerdded ‘Caned Pawb’ yng nghwmni Ffion Eluned Owen i gychwyn am 10.30, fydd yn canolbwyntio ar gysylltiadau Talysarn a Phenygroes gyda cherddoriaeth, ac yn rhoi Cledwyn yn ei gyd-destun cerddorol. Dewch â phecyn bwyd gyda chi.

12.30 Dadorchuddio plac ar hen gartref Cledwyn yn 14 Eifion Terrace yng nghwmni’r cyfansoddwr a’r cerddor o Dalysarn, Robat Arwyn.

1.30 Paned a chacen yn y Ganolfan yn Nhalysarn gydag adloniant gan Robat Arwyn, Band Dyffryn Nantlle ac eraill. Sgwrs gan Angharad Tomos a bydd arddangosfa a ffilm fer i’w gweld.

Amserlen gŵyl Cofio Cledwyn
Amserlen Cofio Cledwyn, Dydd Sadwrn 3 Mehefin 2023

Cais am ddeunydd:

Os oes gan unrhyw un luniau neu ddeunydd ar gyfer yr arddangosfa (unrhyw beth am Cledwyn neu am hanes cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle) fyddech chi cystal â’i anfon at Ffion Eluned (ffioneluned24@gmail.com). Os nad yw’n ddigidol, croeso i chi ei adael yn Yr Orsaf ym Mhenygroes, wedi ei gyfeirio Cofio Cledwyn d/o Angharad Tomos, gan nodi eich enw, a rhif cyswllt. Cewch y ddogfen yn ôl wedi’r digwyddiad.