Diwrnod i’w gofio – dyna farn bron i gant o bobl ddaeth i Wyl Cofio Cledwyn ar Fehefin 3ydd yn Nhalysarn i nodi can mlynedd ers geni Cledwyn Jones, yr olaf o Driawd y Coleg.
Yn y bore, bu Ffion Eluned yn arwain taith gerdded o Dalysarn i Benygroes ac yn ol, gan ddangos y tai oedd yn gysylltiedig efo cantorion. Am 12.30, roeddent wedi cyrraedd Ysgol Talysarn, a dyna lle dadorchuddiwyd cofeb i Cledwyn gan Robat Arwyn, y ddau yn gyn-ddisgyblion o’r ysgol. Gorffennodd y daith wrth 14 Eifion Terrace, cartref Cledwyn.
Aeth pawb ymlaen i Ganolfan Talysarn lle cafwyd cacen a phaned i gyfeiliant Band Nantlle, a hyfryd oedd clywed sain sydd mor hen. Wedi sgwrs gan Angharad Tomos a ffilm gan Ffion Eluned o Driawd y Coleg, cafwyd adloniant gan Robat Arwyn. Roedd arddangosfa werth chweil o fywyd Cledwyn a chantorion Talysarn.
Gwnaed casgliad ar y dydd a rhannwyd yr arian rhwng Ysgol Feithrin Talysarn, Canolfan Talysarn a Band Nantlle. Diolch i bawb am roi o’u hamser a’u doniau yn rhad ac am ddim, a diolch i Pant Du am y gacen a Iolo Owen am y llechen.
Fore Mawrth, daeth 50 o blant Ysgol Talysarn i weld yr arddangosfa ac i gael cwis gan Ffion Eluned. Trefnwyr y digwyddiad gan Yr Orsaf