gan
angharad tomos
Dyma rai o’r plant ddaeth i’r Clwb Celf, fore Sadwrn, Chwefror 11 i wneud cwrs efo Nicole le Maire. Gwneud peli ffelt oedd y dasg, ac roedd pawb, yn oedolion a phlant, wedi mwynhau. Cynhelir cyrsiau bob mis, yn Neuadd Goffa Penygroes, ac mae pawb yn mwynhau y ddwy awr o ymlacio, paned am ddim, a chanolbwyntio ar greu. Ym mis Ionawr, cafwyd cyfle i greu siapiau helyg efo Eirian Muse.
Trefnir y cyrsiau gan Yr Orsaf, a gwyliwch Facebook i gael manylion. Ar gyfer plant cynradd y mae’r cyrsiau. Oherwydd eu poblogrwydd, gofynnwn i chi archebu lle o flaen llaw. Mae’r cyrsiau am ddim, a does dim angen profiad blaenorol. Mae’n gyfle gwych i blant gael profiadau gwahanol.