Caffi Trwsio Yr Orsaf

Be mae nhw’n ei wneud?

angharad tomos
gan angharad tomos
B2A1A84E-57B3-489A-BF84

Glenys efo’r rhaw

70A53355-B571-4431-A5B7

Dave yn cael golwg ar y beic

CAF06353-31B8-4EC3-9D4A

Sion a Rhys wrthi’n trwsio

Hetar oedd gen i, wedi stopio gweithio. Es a fo i’r Caffi Trwsio a holi beth oedd modd ei wneud. Dywedais nad oedd brys, ei fod yn esgus da i beidio smwddio. Es am baned yn Yr Orsaf ac wedi chwarter awr, daeth Sion ataf, a’r hetar fel newydd. “Mond y ffiws oedd wedi mynd” eglurodd. Problem fach i Sion, ond problem fawr i mi. Heblaw am y Caffi Trwsio, byddwn wedi lluchio’r hetar a phrynu un newydd.

Dyna holl ddiben Caffi Trwsio, – rhannu sgiliau a gwybodaeth, fel bod llai o wastraff. Dipyn o brofiad ac amynedd, a gellir cymryd camau bychan i leihau gwastraff a helpu’r blaned. Yr un bore a mi, galwodd Rhiannon heibio efo pram ysgafn oedd cau agor. Aeth o’r Orsaf yn hapus. Rosie y Ficer gafodd ei phlesio ddechrau Ionawr. Roedd ganddi fflasg fawr oedden nhw yn ei defnyddio yn yr Eglwys a darn ohoni wedi torri. Yn y Gofod Gwneud, llwyddodd Osian i greu darn plastig yr un fath a’r gwreiddiol. Dyna un peth yn llai i fynd i’r domen.

Cynhelir y Caffi Trwsio yn yr ystafell drws nesaf i’r Caffi yn yr Orsaf (yng nghefn y Caffi a throi i’r dde). Rhwng 10 ac 1 ar Sadwrn olaf bob mis mae o’n digwydd, ond mae modd galw i holi Osian Roberts rhwng y sesiynau hyn. Ar fore Sadwrn, Ionawr 28, gelwais heibio i weld beth oedd yn digwydd. Glenys oedd un cwsmer hapus, a chefais lun ohoni yn gadael. Doedd ganddi ddim i’w drwsio, ond chwilio am gyngor oedd hi. Roedd ganddi hen raw a ddefnyddiwyd ers talwm i godi mwydod amser ‘sgota, ac roedd wedi rhydu. Finag gwyn a dipyn o olew penelin oedd yr ateb, ac roedd Glenys yn barod i dorchi ei llewys. Yn y cefn, roedd Dave yn cael golwg ar feic oedd angen ei wirio. Gwirfoddolwyr ydi pawb sy’n helpu, a does ganddynt mo’r atebion i gyd. Ond mae nhw’n barod i roi cynnig arni. Daw Rhys drwy’r drws efo twls i ddatrys rhyw broblem neu’i gilydd. Croeso i unrhyw un ddod i gynnig help, neu ddod efo problem i’w dateys.

Yn ystod llynedd, llwyddodd criw y Caffi Trwsio i adfer 85 eitem. Golyga hyn 270 kg yn llai o wastraff, ac arbedwyd 2.6 tunnell o garbon.

Efo’n gilydd, gallwn helpu’r blaned a’r amgylchedd.