Os cerddwch o Gapel Brynrodyn tua Rhosnenan, fe ddowch at bont ger Hafod Boeth lle mae llechen a’r geiriau, ‘Ger y fan hon, yn Ty Croes a Beudy Isaf, y magwyd Griffith Davies, FRS, 1788- 1855. Ar nos Iau, Mai 11, lansiwyd llyfr Haydn Edwards, gwr o’r Groeslon, ar Griffith Davies, a llanwyd neuadd Ysgol Bro Llifon. Yn ei holi, roedd un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Groeslon, Ffion Eluned Owen.
Cewch ragor o’r hanes yn rhifyn Mehefin o Lleu, ond braf oedd gweld neuadd Ysgol Bro Llifon yn llawn ar gyfer yr achlysur. O wreiddiau cyffredin, aeth Griffith Davies yn ei flaen i fod yn un o fathamategwyr mawr ei oes, ac fe’i gwnaed yn FRS, Fellow of the Royal Society, neu Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, un o’r anrhydeddau mwyaf y mae’n bosibl i wyddonwyr eu cael.
Cyhoeddir y llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru, yn y gyfres Gwyddonwyr Cymru. Un o amcanion y gyfres yw cydnabod cyfraniad gwyddonwyr Cymru, a bod gennym ein gwyddonwyr yn ogystal a’n beirdd a’n cantorion. Dylem ymfalchio fod Richard Price, William Morgan a Griffith Davies wedi gwneud cyfraniad clodwiw yn y maes hwn.
I Gymdeithas Brynrhos y darlithiodd Haydn yn gyntaf ar Griffith Davies ym 2016, ac yna cychwynnodd ar y gwaith manwl o ysgrifennu cofiant iddo. Dyna pryd y clywais gyntaf am Griffith Davies. Yn ogystal ag adrodd hanes ei fywyd yn ddifyr, mae Haydn yn cyffwrdd a phynciau eraill gan agor meddwl y darllenydd. Fel y dywed Derec Llwyd Morgan yn ei froliant ar glawr y llyfr, ‘Y mae’r awdur wedi ei drwytho nid yn unig ym mathamateg Griffith Davies, ond yn ei ddiwinyddiaeth a’i foeseg yn ogystal, ac wedi rhoi inni fywgraffiad i’w drysori.’
Mynnwch eich copi o’r llyfr pwysig hwn, a gwnewch y daith o Gapel Brynrodyn i’r Cilgwyn. Y capel a’r chwarel, roeddent yn allweddol i addysg a gwerthoedd Griffith Davies, a buont yn ganllaw iddo weddill ei oes.