Os ydych am nofel dda i’w darllen dros yr haf, beth am The Half-Life of Snails gan Philippa Holloway. Nofel wedi ei lleoli ar Ynys Mon ydyw, am ddwy chwaer – un yn gweithio yn Wylfa, a’r llall yn gwrthwynebu ynni niwcliar, ac mae’n nofel ysgytwol.
Addas iawn oedd cael cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23, i drafod Ffrynt Unedig yn erbyn Ynni Niwclear. Roedd clywed y gwahanol siaradwyr yn peri i rywun ystyried o ddifri beth yw’r gost. Mae’r costau ariannol yn codi gwallt eich pen, ond mae’r gost mewn dioddefaint dynol yn waeth.
Mae’n siwr fod degawd wedi mynd ers i Wylfa gynnal Ymgynghoriad Cyhoeddus yn y Celtic Royal yng Nghaernarfon, a chofiaf holi swyddog yno beth oedd yr ateb i wastraff niwclear. Doedd ganddo ddim ateb, a does yna ddim ateb.
Ddydd Sadwrn, clywais ymgyrchydd sydd yn cwrdd yn rheolaidd efo gweindogion San Steffan, ond wnawn nhw ddim gwrando ar y dadleuon.
Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn oedd y teimlad ein bod yn mynd yn brin o amser. Roedd Mabon ap Gwynfor yn siarad drwy linc o Fienna ac yn tystio i’r gwres poeth a gawsom yn ddiweddar. Gyda’r byd yn poethi, dydi cael llynnoedd fel Trawsfynydd i oeri y trosglwyddydd ddim yn ateb y broblem. Ers talwm, creu safleoedd enfawr fel Wylfa oedd yr ateb, bellach, trafodir SMR – adweithyddion bach, ond dydi y rheini ddim yn ateb ychwaith. Does neb yn fodlon talu’r gost ariannol, a bellach allwn ni ddim fforddio’r amser. I ateb y galw, byddai’n rhaid cael yr adweithyddion ar eu traed yn awr, ond does dim symud. Yn y cyfamser, rhaid wrth egni amgen, yn wyneb costau tanwydd sy’n codi yn ddyddiol.
Yr un a gododd fy nghalon fwyaf oedd Mel Davies o Ynni Ogwen, Bethesda a siaradodd sut aeth cymuned Dyffrn Ogwen o’i chwmpas i harnesu ynni o’r afon Ogwen a chreu cynllun ynni cymunedol. Fel stori gefndir, soniodd fel y cafodd ei magu yng nghysgod Atomfa Trawsfynydd, ein hatgoffa o Chernobyl, a sut y cyfeirwyd at ei thad fel Radioactive Ned. Ddaw a ni’n ol at nofel The Half Life of Snails…