I godi arian i Gymdeithas Waldo cynhaliwyd Waldothon drwy Gymru ar ddydd penblwydd Waldo, Medi 30, a’r diwrnod canlynol. Y bwriad oedd cael ugain grwp i ddarllen tua 20 cerdd, fel y byddai tua 400 ohonynt wedi cael eu dros y ddeuddydd.
Criw Dyffryn Nantlle oedd y cyntaf, a daeth criw o saith i Gapel Horeb, Rhostryfan am 6pm ar ddydd olaf Medi. Cafodd pob un fendith o’r noson. Meddai un, “Ar derfyn mis mor wallgof lle dyrchafwyd brenhiniaeth, pan gafwyd Prif Weinidog oedd yn benderfynol o ochri gyda’r cyfoethog, ac amddifadu’r tlawd, braf oedd troi at ddoethineb oesol Waldo”. Teimlai pawb mai anaml y caent gyfle i wrando ar farddoniaeth, a byddai’n syniad da i Radio Cymru ddarparu rhaglen o’r fath. Soniodd un arall mai adrodd barddoniaeth oddi ar ei gof a wnaeth pan yn dioddef o Covid.
Petaech yn awyddus i gyfrannu at Gronfa Waldo, anfonwch siec at Alun Ifans, Erw Grug, Maenclochog, Sir Benfro. Diolch iddo am ei waith trefnu.
Gorffenwyd y noson gyda cerdd boblogaidd iawn,
Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth
Yno mae’n rhuddin yn parhau.
Yno mae’r dewrder sy’n dynerwch
Bywyd pob bywyd brau.
Yno wedi’r ystorm y cilia’r galon.
Mae’r byd yn chwal,
Ond yn yr isel gaer mae gwiwer gwynfyd
Heno yn gwneud ei gwal.