Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, ac mae ar daith ôl-Covid o amgylch yr etholaeth yn cynnal cymorthfeydd
Cyfarfod un-i-un sy’n cael ei gynnal gan Aelodau o’r Senedd yw cymhorthfa, ac mae’n gyfle i etholwyr godi pryderon neu faterion lleol.
Roedd Siân yn cynnal cymorthfeydd wyneb-yn-wyneb yn gyson cyn cyfnodau clo Covid, ond bu’n rhaid dod â chyfarfodydd o’r natur honno i ben ym mis Mawrth 2020. Ers hynny, mae Siân Gwenllian wedi’i hail-ethol yn AS dros Arfon, ac mae’n cynnal taith o amgylch yr etholaeth i gwrdd â thrigolion.
Bydd y gymhorthfa nesaf yn ymweld â’r Groeslon, a bydd Llio Elenid Owen yn ymuno â hi. Etholwyd Llio’n gynghorydd dros y ward ym mis Mai eleni, gan gipio’r sedd i Blaid Cymru.
Yn ôl Siân:
“Ddydd Gwener (11/11/22) bydd trigolion y Groelson yn cael cyfle i drafod materion gyda’u Haelod o’r Senedd a’r Cynghorydd lleol.
“Mae cymorthfeydd yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac yn gyfle pwysig i drigolion drafod materion yn ymwneud â thai ac ati.
“A chan y bydd y cynghorydd lleol yn bresennol, bydd yn gyfle i drafod materion yn ymwneud â’r Cyngor Sir hefyd.
“Mae’r cymorthfeydd hyn yn rhan ganolog o’n gwaith cymunedol y gaeaf hwn, gaeaf a fydd yn heriol i nifer o bobol. Mae gennym hefyd daflen a fydd yn cael ei dosbarthu i bob tŷ yn Arfon yn sôn am ein gwaith diweddar, ac rydym wedi llunio llyfryn sy’n cyfeirio etholwyr at gymorth yn wyneb yr argyfwng costau byw.
“Ers cychwyn y daith rydym wedi ymweld â chymunedau ar draws yr etholaeth, o Ddyffryn Ogwen i Ddyffryn Nantlle, o Fangor i Gaernarfon yn ogystal â phentrefi a chymunedau llai.”
Mae’n rhaid i’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa drefnu apwyntiad i fynychu. Cysylltwch dros y ffôn neu ebost: 01286 672076 neu sian.gwenllian@senedd.cymru