Taith Gerdded o gwmpas Talysarn

Talysarn – Dorothea – Cilgwyn

Gwydion Tomos
gan Gwydion Tomos

Cylchdaith o tua 4 lilltir yn cychwyn a gorffen yng Nghanolfan Talysarn. Maes Parcio mawr yma.

Taith yn cychwyn wrth gerdded tuag at Dorothea, dilyn y llwybr mawr heibio y twll. Edrych allan am lwybr ar y chwith (ble mae Llwybr Llechi Eryri) a dringo heibio Twll Mawr ag allan wrth hen dwll Cilgwyn. Yna yn syth am y copa.

O’r copa mae angen dilyn y llwybr lawr i gyfeiriad Parc Bel, mae angen edrych allan am bont bychan o dan y fynedfa i dwll cilgwyn. O Parc Bel mae nifer o lwybrau i’w dilyn sydd yn mynd a chi yn ol lawr i Talysarn. Mae linc yma yn rhoi bras amlinell o’r daith. Map y Daith

Mae hon yn daith addas i blant, ag yn gyflwyniad gwych i ‘fynydd’ cyntaf!

Unrhyw un gyda diddordeb mi fydda i yn arwain y daith yma ar fore Mercher 16 Mawrth manylion yma – Ar y Trywydd Neu dilynwch tudalen Facebook – Facebook Ar y Trywydd