Sion Alun Trefor Jones yn ail- ymuno gyda CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
757E44F9-CFDA-40E7-A115

Croeso cynnes i Sion sydd yn ail-ymuno a’r clwb yn dilyn cyfnod o chwarae i Met Caerdydd. ⚽

⬇Dyma eiriau gan y rheolwr Sion Eifion ⬇

“Falch iawn o allu cyhoeddi fod Sion yn ymuno a’r clwb am yr ail hanner o’r tymor. Sion yn adnabod y clwb yn dda iawn gan ei fod wedi chwarae i’r Fêl pan yn hogyn ifanc ond yn ymuno rŵan efo llawer mwy o brofiad. Da ni gyd yn edrych ymlaen at ei weld yn ôl ar y cae! Croeso Trefs!”

? Cyfweliad gyda Sion Trefs allan ? 

Croeso nôl i’r clwb Sion Trefs??

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)