gan
angharad tomos
I’r rhai ohonoch gollodd y Sioe Hydref gynhaliwyd ar Sadwrn olaf Hydref, neu i’r sawl sydd am gofio’n ol, dyma ddetholiad bach o’r hyn gafodd ei arddangos. Trodd y neuadd yn wledd o liw, a rhaid ymfalchio fod y safon gystal, ym mhob adran – boed o’n gogonio, tyfu llysiau, gosod blodau, tynnu lluniau, gwaith llaw neu ffotograffiaeth. Roedd gwaith y plant yn werth ei weld hefyd. Llongyfarchiadau i bawb ddaru gystadlu, diolch i’r rhai wnaeth y te, ac mae ein diolch mwyaf yn mynd i’r trefnwyr. Bydd manylion am y rhai enillodd yn rhifyn Rhagfyr o Lleu.