Clywed fod Delyth Owen wedi rhoi 100 peint o waed barodd i mi feddwl am y peth. Roedd blynyddoedd ers i mi roi gwaed. Cofiaf weld poster trawiadol, ‘Petai rhoddwyr gwaed yn unig yn cael traswylliad – faint o obaith fyddai gennych chi?’ A dyna a’m perswadiodd i wneud. Yn achlysurol, deuai lori y Gwasanaeth Rhoi Gwaed i Benygroes, a hawdd fyddai mynd i mewn a gwneud apwyntiad. Ond mae blynyddoedd ers hynny, a wyddwn i ddim efo pwy i gysylltu. Wedyn aeth y blynyddoedd heibio, a daeth Covid, a ballu a ballu…
Fodd bynnag, cefais alwad ffon eto rai dyddiau yn ol yn gofyn i mi fynd i’r Celtic Royal i roi gwaed, a dyma gofio dycnwch Delyth a dweud ‘Iawn’. Mae y stoc gwaed yn isel rwan wedi’r pandemig, ond yr un yw’r angen. Felly ystyriwch roi gwaed ac annog eraill i wneud. Rhyw hanner awr mae’n ei gymryd, a dydi o ddim yn brifo – ac mi gewch baned a bisged ar y diwedd!