Mae Rhian a Leri wedi bod yn brysur!

Ynyr yr Ysbryd a’r Dylwythen Deg yw’r diweddaraf yn y gyfres

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae’r fam a’r ferch Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn o Rosgadfan gael cydweithio ar lyfr arall yn y gyfres llun a stori i blant am Ynyr yr ysbryd bach annwyl.

Dyma’r ail yn y gyfres gan Rhian Cadwaladr, awdur Fi sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu a Nain, Nain, Nain, a’r darluniau gan Leri Tecwyn sydd eisoes wedi darlunio cyfres Tomos Llygoden.

Mae Ynyr yr ysbryd yn ei ôl! Mae mam Ynyr yn meddwl y dylai o wneud ffrindiau ond tydi hynny ddim yn hawdd i ysbryd bach. Drwy ddyfalbarhau a fydd Ynyr yn dod o hyd i ffrind? A beth am Pip y dylwythen deg? Tydi hi ddim angen ffrindiau medda hi. Tybed fedra Ynyr newid ei meddwl?

Gwrandewch ar Rhian yn trafod y gyfrol yn y clip fideo uchod.