Bydd Dydd Mawrth (9fed Awst) yn ddiwrnod mawr i CPD Talysarn Celts. Gêm gyntaf cynghrair Wayne Jones fel rheolwr wrth i Celts chwarae yn haen 4 ym mhyramid pêl-droed Cymru ar ôl dyrchafiad tymor diwethaf.
Mae Jones, 32, yn wyneb cyfarwydd yn Celts yn gyn-chwaraewr ac wedi bod yn hyfforddi y tîm ers sawl blwyddyn mae o yn y sedd boeth ar ôl i Meic Williams benderfynu rhoi’r gorau iddi ddiwedd tymor ar ôl cyfnod llwyddiannus wnaeth orffen gyda dyrchafiad.
Yn ôl Jones, mi fydd yn trio chwarae gem wrth-ymosodol gyda’r gobaith o sgorio llawer o goliau. Dyma oedd gan y rheolwr i’w ddweud: “Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy am y sialens newydd y tymor yma ac i reoli’r grŵp o’r chwaraewyr talentog sydd yn y tîm.
Yn y lîg yma dwi’n meddwl fod hi’n bwysig fod ni’n trio cadw’r bêl gymaint y gallwn ni gan fod na gymaint o dimau da fuasai’n gallu cosbi ni pan fydd nhw’n cael y cyfle. Hefo’r chwaraewyr ifanc a thalentog sydd gennym, mae’n bwysig fod ni’n cymryd mantais ar ein cryfderau i drio cosbi’r timau eraill. Ond yn fwy na dim, mae’n bwysig fod pawb yn mwynhau eu hunain drwy gydol y tymor.”
Yn cwblhau y tîm rheoli fydd Guto Hughes fel is-reolwr a Darren Usher fel hyfforddwr.
Mae’n bosib i chi fod wedi sylweddoli ar ambell i newid arall ar wahân i reolwr ar y Gloddfa Glai dros yr haf! Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn galed yn gwella’r cae. Gyda goliau newydd, railings, gwaith paent a llawer mwy, mae’r Gloddfa Glai werth ei weld.
CPD Talysarn Celts v CPD Pwllheli, Gloddfa Glai, 18:30, 9/8/22