gan
angharad tomos
Ydych chi’n cofio pa mor ddiflas oedd y cyfnod clo? Fel roedden ni’n hiraethu am gael mynd allan o’r ty? Bellach, wrth i’r tymor gychwyn, mae cymdeithasau fu’n dawel yn ail gydio ynddi.
Pleser o’r mwyaf yw cael dweud y bydd dau berson ifanc yn arddangos eu doniau ar Nos Fawrth, Hydref 18, am 7pm yng Nghapel Soar, Penygroes, ac mae croeso i bawb fynd yno. Noson agoriadol Cymdeithas Lenyddol Undebol y pentref yw hi, a bydd y digwyddiad nesaf ar Dachwedd 1af, yna Tachwedd 15. Nodwch y rhain yn eich dyddiadur, a dewch i gefnogi. Y ddau berson ifanc yw Elis Massarelli-Hughes o Garmel a Leusa Mair o’r Groeslon. Edrychwn ymlaen!