‘Be Nawn Ni”

‘Be Nawn Ni’ yw prosiect wedi ei anelu at bobl dros 60 oed yn Ddyffryn Nantlle i leihau unigrwydd ac i gryfhau teimlad o berthyn cymdogol.

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

‘Be Nawn Ni’ yw prosiect wedi ei anelu at bobl dros 60 oed yn Ddyffryn Nantlle i leihau unigrwydd ac i gryfhau teimlad o berthyn cymdogol. O fewn y prosiect hwn, mae Yr Orsaf wedi bod yn cynnal sesiynau ‘Cacan, Panad & Chrefft’ dros y misoedd diwethaf, bob yn ail wythnos, ar brynhawn dydd Mawrth, lle mae criw hyfryd o gymdogion Dyffryn Nantlle yn ymuno gyda ni am sgwrs, blas ar amryw o grefftau, a digon o hwyl.

Mae ein gweithgareddau wedi amrywio o beintio costeri, creu marc llyfrau pom poms, cwis, creu torch Nadolig, ac ardduniad Nadoligaidd i gyd gyda phaned da a sleisen o gacen flasus. Yn ogystal â hyn, gan ei bod hi yn gyfnod y Nadolig, ac ar ôl y blynyddoedd anodd rydym wedi ei chael, roddem yn credu bod angen ychydig o ddathlu i godi calonnau. Felly ar y trydydd ar ddeg o Ragfyr mi wnaeth criw Yr Orsaf, gyda help ychwanegol gwirfoddolwyr a chyngor Gwynedd, drefnu Cinio Nadolig gydag adloniant Nadoligaidd. Roedd hwn yn brynhawn llwyddiannus yn cynnwys pryd hyfryd o’r Orsaf i’w ddilyn gydag adloniant o ganu carolau ac amryw o gemau hwylus.

Mae ymateb yr unigolion sydd wedi bod yn mynychu yn bositif iawn gan ddweud eu bod ‘yn mwynhau yn fawr iawn’ a bod y  ‘sesiynau wedi helpu llawer gan fod cael cwmni yn bwysig iawn’. Yn dilyn yr ymateb hwn mae’r Orsaf yn edrych ymlaen at barhau i gynnal y sesiynau yma yn y flwyddyn Newydd gan hefyd cynnig trafnidiaeth i rai sydd yn gweld hi’n anodd ein cyrraedd ni.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch, 07596325496 / elenid.yrorsaf@gmail.com