gan
angharad tomos
Ydych chi wedi dyfalu beth yw’r fferm hynaf ym Mhenygroes a beth yw ei hanes? Pam nad ewch chi draw i Gapel y Groes, Penygroes ar Fedi’r 8ed (nos Iau) i wrando ar sgwrs ddifyr gan John Dilwyn Williams.
Y newyddion da yw fod cymdeithasau’r gaeaf yn ail-gychwyn wedi dwy flynedd o oedi. ‘Fferm Llwyn y Fuches a gwreiddiau Pen-y-groes’ fydd testun y ddarlith gyntaf. Does dim rhaid i chi fod yn aelod i ddod a bydd cyfle i ymaelodi ar y noson. Er mwyn hwylustod, cynhelir bob sgwrs ar ail nos Iau y mis am 7.30 yng Nghapel y Groes.
Ym mis Hydref, Len Jones fydd yn rhoi Darlith Llyfrgell Penygroes.
Mawr yw’r edrych ymlaen!