Braf oedd gweld y Sioe Flodau yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Penygroes ar Fedi 10ed wedi seibiant o ddwy flynedd. Roedd yr haul yn gwenu, a lliwiau’r blodau a’r llysiau yn llonni’r galon. Da oedd gweld cefnogaeth o lefydd mor bell a Llansannan, Cyffordd Llandudno, Ynys Mon, yn ogystal a Dyffryn Nantlle ei hun. Llongyfarchiadau i’r enillwyr a phawb fu’n cystadlu, yn ogystal a’r trefnwyr a’r rhai fu’n gweini’r te. Un peth ydi tyfu’r cynnyrch, camp arall yw eu cael i’r Neuadd i’w harddangos. Roedd y cyfan yn wledd i’r llygad.
Da fyddai tynnu sylw at holiadur sydd yn mynd o amgylch y dyffryn, ac mae angen cymaint a phosib i’w lenwi. 3 munud o’ch amser fydd o’n ei gymryd, ac wythnos yn unig sydd ar ol i wneud hyn. Wedi’r Haf poethaf erioed, rydym i gyd wedi deffro i beryglon newid hinsawdd. Os ydym am weld parhad y Sioe Flodau, a dal ati i dyfu blodau a llysiau a chadw’r tymhorau, llenwch yr holiadur. Mae newid hinsawdd am effeithio ar fywydau pob un ohonom.
Cliciwch ar y ddolen isod: