Gwahoddiad i lansiad Y Wal Goch: Ar Ben y Byd

Pant Du, Penygroes, Nos Lun 7 Tachwedd am 7.30pm

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Nos Lun, 7 Tachwedd 2022 am 7.30pm ym Mhant Du, Penygroes, byddwn ni’n lansio llyfr newydd sbon am y Wal Goch, sef cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Mae’r gyfrol newydd gan wasg Y Lolfa – Y Wal Goch: Ar Ben y Byd – yn gyfrol i ddiddori ac ysbrydoli wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’n cynnwys cyfraniadau ar ffurf ysgrifau a cherddi gan 18 o gyfranwyr, a lluniau a dyfyniadau gan aelodau’r Wal Goch o bob cwr o Gymru. Mae’n gyfrol sy’n archwilio emosiwn, effaith a dylanwad dilyn y tîm pel-droed cenedlaethol, ac sy’n dangos sut mae’r Wal Goch wedi dod i gynrychioli’r Gymru gyfoes.

Bydda i, Ffion Eluned, sydd wedi cael y pleser o olygu’r gyfrol a rhoi popeth at ei gilydd, yn holi tri o’r cyfranwyr yn y lansiad – yr hanesydd Meilyr Emrys o Fethel, y newyddiadurwr Iolo Cheung o Lanfairpwll a’r cefnogwr pybyr Tommie Collins o Borthmadog. Cyfle am sgwrs a Q+A am y Wal Goch a Chymru yng Nghwpan y Byd.

Bydd darlleniadau o’r gyfrol gan Begw Elain a chyfle i weld ambell fideo.

Adloniant gan Mei Emrys a’r Band.

Stondinau gan Na-Nôg (fydd yn gwerthu copïau o’r llyfr) a chwmni lleol o Benygroes sy’n creu nwyddau pêl-droed, BishBashBoshCymraeg

Croeso i bawb ym Mhant Du nos Lun nesaf (am ddim – does dim angen tocyn) – rydym yn edrych ymlaen at eich cwmni.

Mwy am y gyfrol ei hun …

https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/2108418-goch-dilyn-droed

Mae cyfraniadau yn y gyfrol gan Greg Caine, Garmon Ceiro, Iolo Cheung, David Collins, Tommie Collins, Rhian Angharad Davies, Meilyr Emrys, Annes Glynn, Gwennan Harries, Rhys Iorwerth, Dafydd Iwan, Llion Jones, Bryn Law, Sarah McCreadie, Penny Miles, Sage Todz ft. Marino a Fez Watkins.