Doedd Ffordd Haearn Bach ddim yn edrych fel hyn ym mis Mai rai blynyddoedd yn ol. Byddai’r Cyngor wedi taenu chwynladdwr, a byddai ochr y ffordd yn lanast brown o dyfaint yn pydru. Wn i ddim ai cwtogi ar wario y mae’r Cyngor, ond mae pawb yn sylwi ac yn llawenhau wrth weld blodau yn sirioli ein ffyrdd a’n cylchfannau. Mae eglurhad posib arall – efallai fod y Cyngor wedi deffro i’w dyletswydd ecolegol, ac wedi dewis bod yn rhan o’r cynllun Mai Di-Dor neu No Mow May.
Ymgyrch yw hon i geisio perswadio pobl i beidio torri’r gwair mor aml, a gadael llonydd i’r lawnt yn ystod Mai. Mae hyn yn allweddol os ydym am hybu rhagor o dyfiant ac anifeiliaid hanfodol i’r amgylchedd. Mae sawl un yn cael gwared o ddant y llew gan ei ystyried yn chwyn ymledol, ond ar ddechrau Mai, hwn yw’r unig fwyd bron i’r gwenyn.
O adael y gwair i dyfu ym mis Mai, dyma sylwi fod hyn yn rhoi cyfle arbennig o dda nid yn unig i wenyn, ond i ieir bach yr haf, chwilod a pheilliaid eraill. O ddarparu siwgr nectar i’r creaduriaid hyn, mae’r canlyniadau yn bell gyrhaeddol ac yn lles mawr i fyd natur.
I helpu byd natur felly, gohiriwch y dasg o nol y peiriant torri gwair, a chymrwch hanner awr i eistedd yn yr ardd yn mwynhau seibiant.