Mynydd Eliffant oedd y mynydd cynta’ i fi erioed ei ddringo. Does na’m rhyfedd a hwnnw’n un o’r petha cynta’ oni’n ei weld yn ffenast bob bore wrth llnau nannedd, ac yn gallu cychwyn drwy’r drws ffrynt a chyrraedd ei gopa mewn llai na dwy awr. Handi iawn ar gyfer y dyddia’ cyn i fi basio nhest, a handiach fyth yn ystod haf 2020.
Dim ond 698 metr (2290 troedfedd) ydi Mynydd Eliffant, neu Fynydd Mawr, Mynydd Grug, Mynyddfawr, p’run bynnag un yr ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae’n cyrraedd rhestr Cant Cymru felly, ac yndi, mae’n fynydd reit hawdd, ond, yn fy marn i, yn un fedrwch chi fyth ddiflasu arno.
Mae ’na nifer o lwybrau yn mynd â chi i’r copa – drwy chwarel Fron, drwy Foel Tryfan, dros Foel Smytho, o Waunfawr a Betws Garmon ac o Ryd Ddu a Llyn Dywarchen. Dwi ’di colli cownt ar faint o weithia’ dw i wedi’i droedio (a thrio’i redeg!) – swni’n gallu gwneud yn fy nghwsg bellach!
Ond llynedd oedd y tro cyntaf i mi ei ddringo o Ryd-ddu. Hynny ar ddiwedd cylchdaith 30.70km neu 19 milltir (yn ôl Strava) o sgwâr Fron ar draws Moel Tryfan a Moel Smytho i lawr drwy’r llwybr llechi i Waunfawr, i ben Moel Eilio a dros y moelydd eraill i Fwlch Maesgwm, yna i Ryd-ddu drwy chwarel Glanrafon ac yn ôl i’r Fron dros Fynydd Mawr. Mi oedd hwnnw’n ddiwrnod gwych.
Mae rasys rhedeg ar y mynydd hefyd – nes i ffindio fy hun ar y copa yng nghanol ras cwpl o flynyddoedd yn ôl – mond ambell ddafad a pili pala sy’n gwmni i fi fel arfer!
Saif y mynydd ar ochr ogleddol Dyffryn Nantlle gyda Waunfawr a Betws Garmon ar yr ochr arall, a Rhyd-ddu tu ôl iddo. Y copa ydi lle gewch chi’r olygfa ora’ o Ddyffryn Nantlle, ardal bro Lleu, Crib Nantlle, Dinas Dinlle, ac felly ia, yr olygfa ora yn y byd.
Nid yn unig mae gan y mynydd nifer o enwau ei hun, ond hefyd mae ‘na gyfoeth o enwa o’i amgylch – Foel Rudd, Castell Cidwm, Craig y Bera, Craig Cwmbychan, Cwm Du, Cwm Planwydd, Castell Caeronwy. Ac felly, fel y buasech yn ei ddisgwyl, mae yna lond het o straeon gwerin a chwedlau am Fynydd Eliffant.
Dywedir bod Mynydd Eliffant, yn ogystal â’r Wyddfa a’r ddwy Glyder, yn nodedig fel man cyfarfod gwrachod – dio’m yn fy synnu o gwbl bod y copa yn gynefin i’r gwrachod! Mae Bedd Mabon fab Modron, duw’r Celtiaid sy’n ymddangos yn Culhwch ac Olwen, yng ngodre Mynydd Mawr hefyd yn ôl pob tebyg.
Clogwyn uchel uwchben Llyn Cwellyn, ar ystlys ogleddol y Mynydd Mawr yw Craig Castell Cidwm – amddiffynfa wych uwchlaw’r hen ffordd Rufeinig. Mae dwy chwedl wedi priodoli iddi. Bod Cidwm, rhyw fonheddwr mawr, yn cuddio yn yr amddiffynfa, ac mai fo laddodd Cystennin Fawr gan saethu ato pan oedd yn pasio heibio efo’i filwyr. Neu Gidwm (sy’n golygu ‘blaidd’ yn ôl pob sôn), mab creulon ac eiddigeddus Elen Luyddog, a guddiodd ymhlith y creigiau er mwyn saethu ei frawd pan oedd hwnnw’n gorymdeithio heibio efo’i filwyr.
Mae gan y mynydd hwn hanes dychrynllyd hefyd. Ar ei ochr ddeheuol, ger Craig y Bera, yr ochr sy’n mynd i lawr at Nantlle, saif cwm o’r enw Cwm Cerwin. Yma yr arferwyd cosbi a dienyddio troseddwyr drwy eu gosod mewn casgenni pren a oedd yn llawn o bicellau, eu cario o’r llys ym Mhen-yr-orsedd ar draws y mynydd, at y cwm, a’u taflu dros y dibyn i lawr cannoedd o droedfeddi. Mae llwybr yn mynd o Ben-yr-orsedd at y cwm o hyd. Cristnogion a erlidiwyd gan y Rhufeiniaid a ddioddefodd y gosb erchyll hon, a thybia rhai bod yr hen dywysogion Cymreig wedi dienyddio teyrnfradwyr yma hefyd.
Roedd yr hen ffordd Rufeinig, a’r unig lôn y ffordd hynny, yn cychwyn ym Meddgelert, yn mynd heibio Rhyd-ddu, i ben Mynydd Mawr, dros Bwlch (Rhos y Pawl), i lawr at Fodaden a chroesi afon y Foryd hyd at Ddinas Dinlle. Yn ôl traddodiad sy’n egluro enw Drws-y-coed, doedd Edward y cyntaf ddim yn fodlon ar orfod cerdded i fyny llethrau serth Mynydd Mawr ac felly gorchmynnodd ei filwyr i greu ffordd drwy’r coed, y coed hynny lle’r oedd tywysogion Cymru yn arfer hela, er mwyn cyrraedd pen eu taith yn haws.
Ymlaen at y tylwyth teg a chwedl lafar yma yn y dyffryn yw am wraig yn cerdded dros Fynydd Mawr i weld ei ffrindiau yn Nant Betws ac yn darganfod hafn o aur y tylwyth teg wrth gerdded i lawr creigiau serth ger Castell Cidwm. Marciodd y lle i’w ddod i’w nôl ar ei ffordd adra, ond welodd hi mohonynt byth eto. Coelia rhai bod trysor ac aur y tylwyth teg yn cuddio yn y creigiau ers canrifoedd. Mae rhai pobl wedi gweld y tylwyth teg yn dawnsio ar garreg fawr o’r enw Carreg Lefain uwchben Waunfawr, ochr arall i’r mynydd. A gwas y Gelli Ffrydiau a gafodd ei ddenu i ddawnsio i gylch tylwyth teg ger Llyn Ffynhonnau wrth fugeilio’r defaid ar lechwedd y mynydd. Yn ffodus iddo cafodd ei achub rhag einioes o ddawnsio gan ddyn hysbys oedd yn digwydd bod yn pasio ac yn cario ffon griafol – gwae i’r tylwyth teg gyffwrdd yn hwnnw!
Ond fy hoff stori hud a lledrith i yw mai o hud y gwnaethpwyd mynyddoedd Eryri, ac felly fynyddoedd Dyffryn Nantlle – mai dewiniaid yr amseroedd gynt fu’n gwneud y gwaith. Ewch i ben copa Mynydd Mawr i wylio’r wawr neu’r machlud ryw ddiwrnod i weld yn union pa mor hawdd yw coelio hynny.
(Os am ddarllen mwy am y mynydd a’r llwybrau sy’n arwain at y copa, ewch i chwilio am gopi o Copaon Cymru, Clwb Mynydda Cymru, llyfrau Dewi Tomos, neu 100 Cymru, Dewi Prysor.)
* Teitl yr erthygl yn dod o Y Lôn Wen gan Kate Roberts.
* Yr erthygl wedi ymddangos yn wreiddiol yn Lleu, mis Mai 2022, rhifyn 540.