Waeth pa mor aml mae rhywun yn cerdded hen lwybrau’r dyffryn hwn, mae ’na wastad bethau newydd i’w gweld. Ar Orffennaf y 9ed, a hithau’n Sadwrn braf, trefnodd Emma Metcalf daith gerdded efo’r Orsaf o Benygroes i Lanllyfni.
Un o’r llwybrau a gerddais amlaf dros gyfnod y Clo oedd hwnnw o Ffordd Haearn Bach i lawr dros y Ffordd Osgoi ac ymlaen tua Penbryn Mawr ac allan ar y lon o Glynllifon i Benygroes. Y gwahaniaeth y tro hwn oedd i Emma gael caniatad i fynd ar dir y fferm ei hun i weld y maen hynafol. Rydym yn gyfarwydd efo’r maen wrth giat Penbryn, ond mae’r ffaith fod hwn mor agos yn peri i rywun feddwl fod gan y cerrig hyn arwyddocad dyfnach.
Cerdded ymlaen i Lanllyfni wnaethom wedyn i weld yr Eglwys, a chael amser i glywed ei hanes gan Lorrina oedd yn aros yn amyneddgar amdanom. Gwyddwn fod y fam eglwys hon yn hen, ond ron i dan yr argraff mai adeilad Fictorianaidd ar safle hynafol ydoedd. Rhyfeddol oedd clywed fod rhan cefn yr adeilad yn dyddio yn ol i’r 15 ganrif, a bod distiau’r to wedi cael eu cadw er fod y to ei hun yn fwy diweddar. Tynnwyd ein sylw at lle’r arferai ffenestri fod tu ol i’r allor ar gyfer y gwahanglwyfion. Fry ar y wal ar yr ochr dde, roedd carreg fedd G17 gyda arfbais Pant Du arni. Bonws ychwanegol oedd cael gweld llestri piwtar hynafol yr eglwys.
Defod arbennig iawn bob Nadolig yw mynychu’r Plygain yn Eglwys Llanllyfni bob bore Nadolig, a braf oedd dysgu dipyn mwy o hanes am Eglwys y Llan. Mawr obeithiwn y bydd modd i’r Cyngor Cymuned wneud rhywbeth yn fuan i dynnu sylw at fedd John Jones, Talysarn, sydd yn y fynwent.