gan
angharad tomos
8.30 nos Fawrth, Awst 23…y lle i fod ydi’r Ardd Wyllt. Dewch draw i weld yr annisgwyl. Cwmni Lloerig yw enw newydd Clwb Drama Dyffryn Nantlle. Addas iawn felly mai ‘Lleuad’ yw enw eu perfformiad fflach yn yr awyr agored. Bydd lluserni yno i oleuo’r tywyllwch…Mae’r Ardd Wyllt drws nesaf i Garej Povey, Penygroes. Trefnir gan Dyffryn Nantlle 2020.