Cyfle i chi siapio dyfodol Dyffryn Nantlle

Ardal Ni 2035 – cyfle i rannu’ch barn am yr ardal

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Beth sy’n dda am ardal Bro Lleu a Nantlle a beth sydd ddim cystal? Beth sydd angen newid er mwyn gwneud yr ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?

Dyna gwestiynau mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gael atebion iddyn nhw. Mae’r awdurdod yn annog pobl Dyffryn Nantlle i lenwi holiadur ‘Ardal Ni 2035’ er mwyn canfod atebion lleol.

Dweud eich dweud

Ymarferiad ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar gymunedau unigol o fewn y sir ydi ‘Ardal Ni 2035’ sy’n holi barn pobl am ddyfodol eu hardal leol.

Gellir llenwi’r holiadur:

  • ar-lein drwy ymweld â www.dweudeichdweud.gwynedd.llyw.cymru a dewis Bro Lleu a Nantlle o’r ddewislen;
  • drwy geisio copi papur o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol;
  • drwy ffonio Galw Gwynedd (01766 771 000) i ofyn am gopi papur drwy’r post.

Bydd yr holl ymatebion yn siapio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu cynlluniau adfywio lleol unigryw ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Y cam nesaf wedyn fydd cydweithio a chyd-ddatblygu datrysiadau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Nod ‘Ardal Ni 2035’ ydy gwneud y gorau o’r balchder a’r angerdd sydd gan bobl Gwynedd yn eu cymuned  gan osod y pwyslais yn sgwâr ar y lleol.

“Drwy adnabod datrysiadau o lawr gwlad i fyny, gallwn adeiladu ar yr hyn sy’n dda yn lleol, mynd i’r afael â’r pethau sydd ddim cystal a sbarduno’r cydweithio lleol fydd yn adfywio ein cymunedau.

“Mae gan bob un ohonom farn am yr hyn sydd angen digwydd yn ein bröydd, ac mae barn a phrofiad pob un ohonom yn cyfri.

“Rwy’n erfyn felly a’r bawb o bobl Gwynedd i fynd ati i lenwi holiadur ‘Ardal Ni 2035’. Mae’r cwestiynau yn syml, yn hawdd eu dilyn, a drwy sbario ychydig funudau byddwch yn cyfrannu at y nod o sicrhau fod adfywio lleol yn seiliedig ar eich blaenoriaethau chi fel y bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn.”

Barn am dai

Yn ogystal â chlywed barn pobl leol am beth y dylai blaenoriaethau adfywio fod ar gyfer eu hardaloedd, mae holiadur byr hefyd ar agor i’w lenwi ar wefan www.dweudeichdweud.gwynedd.llyw.cymru sy’n holi am anghenion tai pobl leol.

Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor wrth baratoi cynlluniau tai mewn cymunedau yn y sir.