Crwydro Dyffryn Nantlle

Mwynhewch y crwydro

Begw Elain
gan Begw Elain

Dw i fel sawl un arall  yn mwynhau teithio i ddinasoedd mawr, i gymdeithasu gyda ffrindiau, ‘neud chydig o siopa, neu gwylio gemau Cymru. Ond i mi does unman yn well na adref – Dyffryn Nantlle. Ardal wedi ei gwarchod gan y mynyddoedd, a’r tirwedd yn swatio’n dynn wrth eu traed. Ardal sydd wedi ysbrydoli beirdd a chwedlau dros y canrifoedd. Ardal wedi ei gerfio gan chwareli.

Gyda phrysurdeb bywyd pob dydd a gwaith ysgol ar fy meddwl, caf ryddhad wrth grwydro llwybrau cefn gwlad, a gadael i lonyddwch y dyffryn dawelu unrhyw feddyliau am waith a deadlines. Mae’r llwybrau yn fy nhywys fyny’r bryniau, lawr i lynnoedd ac yn cylchu’r chwareli. Mae golygfeydd arbennig yn Nyffryn Nantlle ac mi welwch rhywbeth gwahanol o bob cornel, copa neu gae.

Yn sicr, wnes i erioed sylwi ar harddwch naturiol anhygoel sydd gan Ddyffryn Nantlle nes daeth y cyfnodau clo a’r orfodaeth i bawb weithio o adref. Roeddwn yn gwneud gwaith Ysgol o’m llofft pob dydd, ac yn ysu i weld y cloc yn taro 3 er mwyn cael y caniatad meddyliol i redeg allan yn syth rownd caeau i fwynhau llonyddwch a distawrwydd llethol fy ardal lleol.

Rhaid mi gyfaddef nad ydw i’n arbenigo yn fy milltir sgwâr o gwbl, ond dyma lwybrau rydw’i yn mwynhau eu cerdded neu seiclo yn Nyffryn Nantlle. Gobeithio y cewch chi, ddarllennydd y cyfle i fynd allan a’u m wynhau cystal â minnau –

  1. Mynydd Mawr

Heb os, credaf mai hwn yw’r mynydd gorau yn y byd. Ar noson glir mi allwch chi weld bron iawn pob mynydd yn Eryri, holl bentrefi’r dyffryn. Y ffordd hawsaf a’r ffordd gorau i fyny yn fy marn i, yw dechrau o’r Fron. Tydy hi ddim yn daith rhy hir ac mae hi’n ddigon clên dan draed. Mae cyrraedd y copa yn deimlad anhygoel ac yn dal i lwyddo i ddwyn fy anadl ar adegau.

2.Clogwyn Melyn

Yn ail, rwyf wrth fy modd yn cerdded Clogwyn Melyn ym Mhenygroes. Mae hi’n glogwyn hawdd i’w cherdded ac yn grêt i fynd i grwydro os oes gennych ryw awr i sbario. Mae’n le gwych i weld y machlud neu’r wawr a tyda chi ddim yn gorfod deffro’n fuan i baratoi am daith hir o gerdded! Bonus!Er bod angen gwylio allan am blanigion wedi gordyfu ar y llwybr, mae’n le perffaith i gael llonydd a mwynhau’r awyr iach.

3.Lon Eifion

Er fy mod wedi byw a bod ar hen ffordd Lon Eifion yn ystod y cyfnodau ar ol y pandemic, rwy’n dal i fwynhau cerdded neu seiclo trwy’r coed gan adael fy meddyliau lifo allan a gadael iddynt ddianc yn y gwynt. Cyfle i anghofio am bopeth. Byddaf yn mwynhau gwneud hyn yn enwedig yn ystod tymor yr Hydref lle bydd y dail yn troi a lliwiau o bob math yn ymddangos yn y dail.

Yn ogystal â lonydd a llwybrau fel y tri yma, mae gennych ddegau o lwybrau a mynyddoedd eraill i’w gweld yn Nyffryn Nantlle, heb anghofio y cae gorau yn y byd – Nantlle Vale! Galwch heibio os ydych yn pasio Maes Dulyn…

Cofiwch hefyd, bod teithiau arbennig yn gael eu rhedeg gan Yr Orsaf. Mae rhain yn gyfle gwych i ddysgu mwy am yr ardal. Yn olaf, mae mwy o wybodaeth i’w gael am hud a lledrith Nantlle yn fan hyn – https://llwybraunantlle.wordpress.com/

Mwynhewch y crwydro!