Criw ifanc Lloerig

Beth ddigwyddodd yn y coed?

angharad tomos
gan angharad tomos

Perfformiad llawn awyrgylch oedd yr un gafwyd yn yr Ardd Wyllt ym Mhenygroes ar Nos Fawrth, Awst 23. I gyfeiliant drwm a gitar, ymddangosodd pobl ifanc gyda mygydau oedd yn cynrychioli anifeiliad y Mabinogi.  Drwy gyfrwng cân a symudiadau, cafwyd perfformiad dramatig gan gwmni Lloerig, cwmni drama Dyffryn Nantlle, a hwn oedd y cyflwyniad cyntaf i’w gynnal yn yr Ardd Wyllt. Yn ystod y gweithdy deuddydd, gwnaed llusernau ac roedd rhain yn crogi o’r canghennau, gan greu naws arall-fydol. Llongyfarchiadau i’r criw a diolch i Mari a Ffion am yr hyfforddiant.

Bydd Cwmni Lloerig yn ail-gychwyn y sesiynau ym mis Medi. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o gynhyrchiadau.