O’r diwedd, cafwyd cyfle i hyfforddi criw ifanc o wneuthurwyr ffilm dros hanner tymor Chwefror 2022. Bu saith merch o flwyddyn 5 a 6 wrthi am bedwar diwrnod yn wynebu tywydd go heriol rhwng Corwynt Eunice a Franklin.
Mae’n anodd credu fod 9 mlynedd wedi bod ers cwrs cyntaf Clwb Ffilm Dyffryn Nantlle dan Eilir Pierce pan wnaed Achub Penygroes. Bellach, mae rhai o’r plant oedd ar y cwrs hwnnw yn ugain oed, a nhw oedd yn hyfforddi y genhedaleth nesaf. Ar Achub Penygroes, un ferch oedd wedi mentro ymysg deg o hogiau. Eleni, merched oedd y criw i gyd.
Melltith y Masg yw teitl y ffilm diweddaraf a ffilmiwyd yng Nghaffi Yr Orsaf, y Llety a’r Ardd Wyllt. Am y tro cyntaf, roedd y criw yn cyfarfod yng Nghanolfan Ddigidol Yr Orsaf gyda’r holl offer digidol ar gael. “Efallai mai dyna’r newid mwyaf ers 2013” meddai Hedydd Ioan, un o’r hyfforwddwyr, “fod cymaint mwy o offer ar gael.” Roedd pob un o’r criw yn cael cyfle i sgriptio, actio, defnyddio camera, offer sain a chyfarwyddo. Cafwyd cyfle i weld Osian Roberts, un arall o’r hyfforwddwyr, yn defnyddio dron.
Yn sicr, mae cwrs o’r fath yn fodd i hybu pob math o sgiliau, yn lefaru, codi hyder, hybu dyfeisgarwch, gorsegyn problemau a chael profiad real o fod ar set ffilm.
Bydd cyfle i weld y ffilm yn y Gwanwyn