Pam cerdded?

Pobl ifanc yn cerdded am wythnos dros CND

angharad tomos
gan angharad tomos

Nos Lun, Medi 5ed, yn y Neuadd Goffa, Penygroes, am 7pm bydd cyfle i gwrdd a phobl ifanc fydd wedi cerdded am ddeuddydd o Drawsfynydd. Wrth adael fore Mawrth, mae pum diwrnod arall o’u blaenau gan mai Y Wylfa ar Ynys Mon yw pen y daith. Y cwestiwn mawr yw ‘Pam?’

Mae Gorymdaith CND Traws-Wylfa yn ymgais i godi ymwybyddiaeth o SMRs, sef Small Modular Nuclear Reactors, neu Adweithyddion Niwclear Bach. Wedi i Wylfa fethu, dyma’r syniad diweddaraf efo ynni niwclear. Dydi’r ‘Bach’ ddim yn ddisgrifiad da iawn. Byddai un pwerdy SMR er enghraifft yr un maint a dau gae peldroed.

Dewch draw i glywed y dadleuon pam mae CND yn erbyn y gorsafoedd hyn, pam eu bod yn peryglu bywyd, yn wastraff o arian, a ddim yn cynnig fawr o swyddi. Bydd Beth Celyn yno hefyd i gyflwyno adloniant. Mae modd cael rhagor o wybodaeth hefyd ar facebook.com/cndcymru