Caffi Trwshio

Edrychwch beth wnaethom ni yn y caffi trwsio dydd Sadwrn!

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

Fe wnaethon ni gynnal ein caffi trwshio cyntaf ar ddydd Sadwrn! Roedd yn llwyddiant mawr ac rydym yn gyffrous i gynnal un mis nesaf. Diolch yn fawr iawn i bawb a wirfoddolodd ac i bawb a ddaeth i’n cefnogi ar ein sesiwn gyntaf!

Os ydych chi’n dal yn ansicr beth yw Caffi trwshio…

“Yn eu ffurf symlaf, mae caffis atgyweirio yn ddigwyddiadau dros dro sy’n cael eu cynnal ar ddyddiadau rheolaidd lle gall y gymuned leol gael trwsio eitemau tŷ sydd wedi torri am ddim gan wirfoddolwyr.

Mae’r mathau o bethau rydyn ni’n eu trwsio yn cynnwys dillad, trydan cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn, beiciau.”

Mwy o wybodaeth ar: https://repaircafewales.org