Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle

Sut i gefnogi cynnyrch lleol

angharad tomos
gan angharad tomos

Ers Covid, rydym oll yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd bwyta cynnyrch lleol. Nid yn unig mae’n well i’r amgylchedd os nad oes raid i fwyd deithio yn bell, mae blas gwell arno, ac rydym yn cefnogi cynhyrchwyr lleol, ac mae hyn yn ei dro yn hwb i’r economi. Mae hefyd yn fwyd iachach gan nad oes raid ychwanegu cemegau i sicrhau y gall bara am oes ar silff mewn siop.

Sut mae gwneud hyn yw’r gamp. Dyma pam mae’r Orsaf yn lansio Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle ar 26 Awst. Bydd modd i bobl archebu amrywiaeth o gynnyrch lleol:

Llysiau iach a thymhorol o Tyddyn Teg a Trigonos

Coffi Poblado

Bara ffres gan gogydd Yr Orsaf

Saws a sbeisys blasus gan Maggie’s a Blodau Del

Wyau buarth o Flodau’r Mynydd

Mae’r cynhyrchwyr wedi eu lleoli yn Nyffryn Nantlle a’r cyffiniau – Cilgwyn, Nantlle, Penygroes a Bethel.

Gallwch archebu dros y ffôn neu wefan Open Food Network. Caniatewch ddiwrnod neu ddau i’r archeb gael ei pharatoi. Mae modd i chi gasglu’r archeb o’r Orsaf neu gallwch gael y cyfan wedi ei anfon at eich drws efo cerbyd trydan cymunedol. Y nod yn y pen draw yw sefydlu mannau penodol i gasglu’r cynnyrch ar draws pentrefi’r dyffryn.

Os hoffwch fwy o wybodaeth, neu i nodi diddordeb fel cwsmer neu gynhyrchwr, e-bostiwch hwbbwydnantlle@gmail.com