Brethyn Cartref

Dilyn yn ôl-traed y Brodyr Ffransis, Llyfni Huws a R Williams Parry…..

gan Ben Gregory

Gyda Ffion Eluned yn gweithio yn ddi-baid i ddathlu hanes cerddorion Dyffryn Nantlle cyn 1950, ac Osian Cai yn gweithio yn Yr Orsaf i greu ton newydd o fiwsig, weithiau rydym yn cael ein hatgoffa o fyd pop cynnar yn y Dyffryn.

Bore ma ar raglen Linda Griffiths roedd cyfle i glywed ‘Babi Dol’ gan Brethyn Cartref. Tair chwaer o Nantlle oedd Brethyn Cartref – Eryl, Heulwen a Marian. Rhyddhawyd y finyl 7 modfedd ar Recordiau’r Ddraig (mae hanes y label ar y blog bendigedig Y Blog Recordiau Cymraeg (gweler hyn am fwy). Yn anffodus hwn oedd eu hunig record.

Brethyn Cartref oedd un o ddegau o artistiaid menywaidd ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au, sîn a gafodd ei disgrifio yn llyfr Gwenan Gibbard, Merched y Chwyldro.

Mae ‘Babi Dol’ ar raglen Linda Griffiths ar Radio Cymru ar ddiwedd y sioe – 1 awr 25 munud i mewn i’r rhaglen – chwiliwch fan hyn.