gan
angharad tomos
Camp i unrhyw fotanegydd enwi’r blodau sydd newydd ymddangos yn yr Ardd Wyllt ym Mhenygroes. Nid natur a’i creodd, ond plant a phobl ifanc y dyffryn. Sut? Drwy ail ddefnyddio boteli plastig ac maent yn edrych mor lliwgar. Diolch i Ella o Lanbedrog am wneud gweithdy efo plant Blwyddyn 5 a 6 Bro Lleu a Blwyddyn 7 Ysgol Dyffrn Nantlle.
Bydd cyfle i chi weld y blodau ar y coed am 2.00, bnawn Iau, 11 Awst. Mae’n werth galw heibio!