Gyda’r gwres llethol a gawsom yn ddiweddar, mae mwy a mwy ohonom yn cymryd diddordeb yn ein hamgylchedd, ac eisiau dysgu mwy amdano. Dyna oedd y bwriad gyda’r sesiwn Adnabod Planhigion drefnwyd gan Yr Orsaf yn yr Ardd Wyllt ar Orffennaf 22. Diolch i Bethan Moseley am rannu ei phrofiad helaeth. Casglwyd gweiriau gwahanol i ddechrau, yna y dasg oedd dod i’w hadnabod. Y syndod oedd fod cymaint o amrywiaeth mewn darn bach o dir.
Yr ydym yn ffodus yn Gymraeg i gael y fath gyfoeth o enwau – Troed y Ceiliog, gwellt y gweunydd, y geirioch wagsaw, moresg, efryn a gwenithwellt i enwi dim ond rhai. Ein hoff un oedd Cynffon y Gath, yn enw ar fath trawiadol o hesg. Gyda chwyddwydr, dangosodd Bethan y gwahanol rannau o’r planhigion inni ddod i’w hadnabod yh well. Bonws ychwanegol oedd dysgu am y gwenyn a’r lle gorau i hel llus. Bydd rhagor o sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod yr Haf wrth i’r Ardd Wyllt ddod yn fwy a mwy poblogaidd.