Wyddoch chi p’un yw’r adeilad hynaf ym Mhenygroes? Dyna oedd testun darlith John Dilwyn i Gymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle ar Fedi’r 8ed, 2022, wedi seibiant o ddwy flynedd.
Dim ond un ty to gwellt oedd Penygroes ddiwedd y G18. Yr oedd gerllaw y groesffordd lle roedd yr hen lon o Ddyffryn Nantlle yn uno a’r ffordd o Lanwnda i Benmorfa. Gof oedd yn y bwthyn to gwellt a chai fyw yno ar yr amod ei fod yn codi ty a gefail o fewn dwy flynedd. Dyma gychwyn datblygiad fferm Llwyn y Fuches.
Cafwyd ffordd dyrpeg newydd ym 1810, ac roedd hon yn torri drwy ganol tir fferm Llwyn y Fuches (yr hen ffordd drwy ganol Penygroes). Tua ail hanner yr 1820au, dyma godi ffermdy newydd gan Stad Bryncir (perchennog Llwyn y Fuches) yn lle’r hen ffermdy. Fe’i codwyd wrth ymyl y ffordd newydd. Yn ogystal a bod yn ffermdy, roedd hefyd yn dafarn o’r enw The Stag’s Head Inn, sef Yr Orsaf bellach.
Ym 1828, daeth Rheilffordd Nantlle gan dorri ar draws tir Llwyn y Fuches a mynd heibio talcen y Stag’s Head. Pan ddaeth y rheilffordd fawr o Gaernarfon i Afonwen ym 1867, agorwyd stesion Penygroes lle mae Wynnstay bellach, neu Amaethwyr Eifionnydd. Adeiladwyd stryd newydd tuag at y stesion a’i galw yn Snowdon Street (Stryd yr Wyddfa). Codwyd Neuadd y Farchnad yn 1868, sef hen ran y Neuadd Goffa bresennol.
Ym 1891, cafwyd ocsiwn lle gwerthwyd tiroedd Stad Bryncir mewn nifer o lotiau. Roedd 46 o’r lotiau yn cael eu disgrifio fel rhan o dir Fferm Llwyn y Fuches, ond dim ond 4 lot oedd yn dal i gael eu rheoli gan denant y Stag’s Head.
O 1806 am ganrif, yr un teulu fu’n denantiaid Llwyn y Fuches/ Stag’s Head Inn. Symudodd y tenant olaf, a briododd ferch y Stag’s Head yn ol i’w gynefin yn Llyn a daeth teulu arall yn eu lle.
Diolch i John Dilwyn am ei ymchwil difyr.
Ar Hydref 13eg, am 7.30 pm, yn Ysgol Dyffryn Nantlle, bydd Len Jones yn cyflwyno darlith ‘Lleu’ ac ambell un o’r Lleill’ fel Darlith Llyfrgell Penygroes 2022.