Taith Gerdded: Nebo i Frynllidiart

Dydd Sadwrn 2 Hydref | 10.30yb | Ysgol Nebo

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen
Poster Taith Gerdded Nebo

“Roedd hi’n agos i 3 milltir o gerdded i Nebo. Dewiswn y llwybr isaf oherwydd ei fod yn fyrrach o beth, a chan mai ar hyd y llwybr uchaf y byddai plant y Rhoslas a Chors y Llyn yn mynd, roedd fy nhaith yn un ddigon unig, ond yn un ddifyr iawn. Weithiau, dewisai plant y Maenllwyd, cymdogion i ni, y llwybr isaf a chawn eu cwmni hwy. Tua Phont-y-lloc ymunai criw arall â ni, plant Nant Noddfa, y ddau Dal y maes, Pandy Hen a’r Brithdir, a’r tai o gwmpas, a byddai’r fataliwn yn un go gref cyn cyrraedd pen y siwrnai.”

Mathonwy Hughes yn disgrifio’i daith i’r ysgol yn Bywyd yr Ucheldir

Tybed a gawn ni ‘fataliwn go gref’ yn ymuno â ni fore Sadwrn 2 Hydref wrth i ni ail-droedio’r llwybrau yr oedd Mathonwy a Silyn yn eu cerdded i’r ysgol?

Dewch am dro cylchol o Ysgol Nebo, ar hyd ‘y llwybr uchaf’ chwedl disgrifiad Mathonwy, i Frynllidiart, yr adfail diarffordd – a thyddyn uchaf Dyffryn Nantlle – lle magwyd y ddau brifardd.

Adfail Brynllidiart
Adfail Brynllidiart: “Tir pell y diadelloedd”

Byddaf i, Ffion, yn rhannu ychydig o hanesion, straeon a cherddi wrth i ni gerdded, a bydd cyfle ym Mrynllidiart i weld yr arddangosfa awyr agored o lythyrau caru Silyn a chlywed Angharad Tomos yn adrodd ychydig o’u hanes. Byddwn yn dod yn ôl ar hyd ‘y llwybr isaf’ am Bont Lloc.

Llechi-Silyn-3
Rhan o’r arddangosfa awyr agored ym Mrynllidiart

Dewch â fflasg a phicnic ar gyfer yr hoe ym Mrynllidiart – gan obeithio y gallwn ni ail-greu rhywfaint o naws yr hen ddyddiau cynaeafu gynt (er y bydd hi’n fis Hydref!):

“A phan ddeuai diwrnod y cario, byddai’r caeau’n ferw o hwyl a miri cymdogion a chyfeillion ewyllysgar, pawb â’i gribin neu’i bicwarch … clywech y merched yn galw ar bawb i’r tŷ at fwrdd dan ei sang o ymborth a hwnnw wedi ei arlwyo ar liain gwyn. Egwyl fendigedig fyddai hon o’r haul crasboeth a phawb yn ei afiaith yn bwyta, yn traethu ei brofiada ac yn adrodd straeon.”

Hanes cynhaeaf gwair Brynllidiart yn Bywyd yr Ucheldir

 

Rhybudd: Byddwn yn troedio drwy amodau corsiog a thir anwastad mewn mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas.

Manylion Pwysig:

  • Cychwyn am 10.30yb o Ysgol Nebo (lle parcio ar gael drwy garedigrwydd yr ysgol)
  • Bydd y daith yn para tua 3 awr
  • Angen esgidiau addas, fflasg a phicnic
  • Angen cofrestru: anfonwch e-bost at gwion.yrorsaf@gmail.com

Taith wedi ei threfnu gan Yr Orsaf.

Gallwch ddarllen am y daith ddiwethaf a drefnwyd ym mis Awst o Dal-y-sarn i fyny i’r Fron ac yn ôl i lawr i Nantlle yma: Blas ar daith gerdded Yr Orsaf (Awst 2021)

Fe welwn ni chi yn Nebo!