“Oni’n poeni bod yr asesiadau am fod yr un adeg a’r Euros – felly dwi’n falch!”

Ymateb Begw Elain i’r cadarnhad mai ysgolion a cholegau fydd yn dyfarnu graddau eleni

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgyblion ar draws y wlad wedi anadlu anadl o ryddhad, ac yn eu plith mae Begw Elain o Ddyffryn Nantlle.

Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau yr wythnos hon mai athrawon fydd yn pennu graddau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch eleni, yn hytrach nag cynnal asesiadau allanol ffurfiol.

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi cael gwared ar arholiadau diwedd blwyddyn 2021, yn sgil y pandemig.

Bellach, mae hi wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau o’u hysgol neu goleg yn seiliedig ar waith maen nhw’n ei gwblhau dros gyfnod eu cwrs.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Begw ar sail tegwch… ac ar sail rhai materion allgyrsiol!

“Oni wedi bod yn poeni gymaint am hyn”

“Oni wedi bod yn poeni gymaint am hyn… felly dwi’n falch bod nhw wedi cyhoeddi hyn rŵan,” meddai Begw Elain, sy’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Brynrefail.

“Mae pobl ifanc yn mynd drwy gymaint ar hyn o bryd – ymdopi hefo’r lockdown a bob dim arall, felly maen nhw wedi tynnu llwyth o’r stress i ffwrdd.

“Rŵan, fedrwn ni ganolbwyntio ar drio cwblhau bob tasg mae’r athrawon yn ei osod i ni,” meddai, “a chymryd bob wythnos fel mae’n dod.

“Hefyd, oni’n poeni bod yr asesiadau am fod yr un adeg a’r Euros – felly dwi’n falch!”

Mae modd darllen mwy o ymatebion gan ddisgyblion fan hyn.