Tynnu yw cyfrol ddiweddaraf yr awdur o Ddyffryn Nantlle, Aled Jones Williams.
Storïau byrion wedi’u lleoli ym Mlaenau Seiont a’r cyffiniau yw’r gyfrol, ac mae Aled Jones Williams yn cyfaddef mai ‘cyfuniad od o Gaernarfon fy mhlentyndod a Blaenau Ffestiniog’ ydi Blaenau Seiont.
Ganwyd Aled ym mhentref Llanwnda ger Caernarfon, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle.
Yn ôl yr awdur, roedd prynhawniau Sul plentyndod yr awdur yn Nyffryn Nantlle yn sbardun iddo ysgrifennu’r gyfrol;
“Y p’nawn Sul hwnnw ar ddechrau’r pla (Covid-19)… Mi oedd y p’nawn Sul hwnnw yn debyg i r’wbath. P’nawniau Sul fy mhlentyndod”
Aled Jones Williams
Gyda Covid-19 yn ei anterth ym mis Ionawr 2021, penderfynodd yr awdur toreithiog i roi cynnig ar ysgrifennu storïau byrion byr.
Yn ôl yr awdur;
“Yr amod oedd dim mwy nag awr ’ballu i greu pob un, er y caniateid – gan bwy? – newidiadau bychain ond dim byd sylweddol wedi hynny. Ar y cyfan, mwy neu lai, cedwais at hynny.
Fe’u hysgrifennwyd yn ddyddiol gydol Ionawr ac i mewn i Chwefror. Pan oedd y pla ei hun yn gwthio pawb i’r hanfodol, i’r ‘byr’ mewn geiriau eraill…”
I gael blas ar y gyfrol, dilynwch y ddolen hon.